Mae'r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn fudiad arweinyddiaeth ieuenctid sydd â'r nod o ddatblygu arweinwyr y dyfodol yng Nghymru trwy chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chwarae. Mae Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio eu rolau i ysbrydoli, dylanwadu, arwain a mentora o fewn ysgolion a’u cymunedau i gynyddu cyfranogiad a gwella llais y disgybl.
Rydyn ni eisiau cydnabod a gwobrwyo ein Llysgenhadon ifainc am eu holl waith caled a'r oriau gwirfoddoli maen nhw'n eu cyflawni. Bob mis, rydyn ni'n cynnwys enwau'r holl Lysgenhadon sydd wedi cofnodi eu horiau gwirfoddoli ar ap Volhours mewn raffl.
Chwefror 2025 - Nyla
Rhagfyr 2024 - Ffion