Skip to main content

Torri gwair

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am dorri gwair ar dir sy'n berchen i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys parciau, mannau agored, troedffyrdd a lleiniau glas.

Rydyn ni'n torri gwair er mwyn sicrhau gwelededd da i yrrwyr, cadw arwyddion traffig yn glir, sicrhau bod modd i gerddwyr, ceffylau a seiclwyr fynd heibio lleiniau.

Rydyn ni'n torri lleiniau gwledig sy'n gyfagos i droeon, mynediadau neu gyffyrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn er mwyn cynnal llinell welediad ac atal unrhyw rwystrau i olwg gyrrwyr. Mae lleiniau gwledig sy'n cael eu defnyddio gan gerddwyr yn aml yn cael eu torri o leiaf dwywaith y flwyddyn.

Rhowch wybod am wair sydd wedi tyfu'n wyllt.

Rhowch wybod am leiniau glas, parciau neu lwybrau sydd wedi tyfu'n wyllt.

Byddwn ni'n anfon y manylion i'r adran berthnasol ac yn gwneud pob ymdrech i roi sylw i'r mater o fewn 28 diwrnod neu'r tro nesaf y byddwn ni'n torri'r gwair (pa un bynnag a ddaw gyntaf).

Os yw unigolion neu gyrff allanol yn gyfrifol am y tir dan sylw, byddwn ni'n anfon y manylion at yr unigolyn priodol neu i'r corff allanol priodol (os byddwn ni'n gwybod pwy yw nhw).