Skip to main content

Rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â graffiti


Rydyn ni'n glanhau graffiti oddi ar eiddo sy'n berchen i'r Cyngor gan gynnwys adeiladau, arosfannau bysiau, pontydd a henebion.

Os ydych chi'n gweld problem graffiti, mae modd i chi roi gwybod i ni amdani.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad graffiti ar-lein

Graffiti Cyffredinnol: 

Byddwn ni'n cael gwared ar bob achos o graffiti cyffredinol ar eiddo'r Cyngor neu eiddo preifat sydd dim yn sarhaus o fewn 5 niwrnod gwaith. 

Nodwch: Bydd tâl yn cael ei godi ar eiddo preifat ar gyfer y gwasanaeth yma, a bydd angen i berchennog yr eiddo arwyddo'r ymwadiad cyn i ni cael gwared ar y graffiti.

Graffiti Sarhaus neu Hiliol: 

Byddwn ni'n cael gwared ar bob achos o graffiti hiliol neu sarhaus ar eiddo'r Cyngor neu eiddo preifat o fewn 24 awr. 

Nodwch: Bydd tâl yn cael ei godi ar eiddo preifat ar gyfer y gwasanaeth yma, a bydd angen i berchennog yr eiddo arwyddo'r ymwadiad cyn i ni gael gwared ar y graffiti.