Mae'n gyfrifoldeb ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu a chadw meinciau, biniau, arwyddion stryd a dodrefn stryd eraill yng nghanol ein trefi a'n pentrefi.
Rydyn ni'n gwirio cyflwr ein dodrefn stryd yn rheolaidd a'n nod yw sicrhau eu bod yn lân a thaclus. Yn
fwy na dim, rydyn ni'n sicrhau eu bod yn ddiogel at ddefnydd y cyhoedd;
Rydyn ni'n cynnal a chadw eitemau megis;
- Biniau sbwriel
- Biniau sigaréts
- Basgedi blodau sy'n hongian
- Meinciau
- Seddi
- Diogelwyr coed
- Planwyr
- Hysbysfyrddau/Arwyddion
- Bolardiau
- Pyst a rheiliau
Rydyn ni'n archwilio i ddifrod a byddwn ni'n gweithredu'n brydlon i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau rydyn ni'n eu hystyried yn fater brys.
Rydyn ni'n trwsio eitemau eraill sy wedi'u difrodi o ran eu golwg fel rhan o'n hamserlen cynnal a chadw reolaidd. Dydy'r rhain ddim yn achosi perygl i iechyd a diogelwch.
Sut rydw i'n rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â dodrefn neu arwyddion stryd sy wedi'u torri neu'u difrodi?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, dywedwch y canlynol wrthon ni: -
- Enw'r stryd a'r ardal.
- Lleoliad ar y stryd, h.y. a yw'n agos at dŷ gyda rhif neu gyffordd?
-
Disgrifiad/manylion y difrod.
-
Eich enw chi a'ch manylion cyswllt.
-
Dyddiad ac amser pan ddaeth y difrod i’ch sylw am y tro cyntaf.
-
Weloch chi'r sawl sy'n gyfrifol am y difrod neu rif cofrestru'r cerbyd? A oedd yr Heddlu yn bresennol?
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaeth Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf,
Uned B23, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest,
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310