Ystadegau'r cwrs
18 twll
5,803 llathen
Par 70
Mae Clwb Golff Cwm Rhondda yn cyfuno tir gwyllt yr ardal â chwrs golff heriol a golygfeydd anhygoel. Mae'r cwrs yn sefyll 1,000 o droedfeddi uwchben lefel y môr – byddwch chi'n chwarae ar ben y mynydd, uwchlaw rhesi o fythynnod glowyr. Mae croeso cynnes y Cymoedd i'r holl ymwelwyr. Mae gan y cwrs yma – sy'n gwrs 6,000 llathen, 18 twll, par 70 – olygfeydd arbennig i Fôr Hafren yn y pellter.
Mae Clwb Golff Cwm Rhondda yn agos at westy The Celtic Manor Resort, sef cartref cystadleuaeth Cwpan Ryder 2010, ac at gyrsiau pencampwriaethau, fel Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, Clwb Golff y Pîl a Chynffig a Chlwb Golff Southerndown.