Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Canolfan Marchogaeth Greenmeadow

 

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr CF44 7PT

Mae'r Ganolfan Marchogaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau ardderchog sy'n addas ar gyfer pob gallu. Mae'r sesiynau marchogaeth yn cael eu cynnal ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, a does dim gwaith ar y ffyrdd. Mae ein staff cymwysedig yn gyfeillgar ac yn fodlon bodloni gofynion gwahanol. Beth am dreulio diwrnod o hwyl yn y ganolfan? Rydyn ni'n cynnal cyrsiau i blant (4 oed neu'n hŷn), cyrsiau i ddechreuwyr pur, a chyrsiau i farchogion mwy medrus. Rydyn ni'n darparu'r holl offer sydd ei angen. Mae modd gadael plant am ychydig oriau, felly, bydd gennych chi amser i wneud rhywbeth arall. Mae ein cyrsiau i blant yn cynnwys rheoli'r stablau a marchogaeth. Bydd gan eich plentyn gyfle i fwydo'r merlod, a gofalu am eu blew, yn ogystal â derbyn gwersi gan ein staff cymwysedig. Ar ddiwedd y cyrsiau i blant bydd sioe fach gyda gwobrau i bawb.

 Aelod o Gymdeithas Ceffylau Prydain a Chymdeithas Marchogaeth i Bobl Anabl.

Tudalennau Perthnasol