Roedd Dr William Price yn Siartydd, yn dderwydd ac yn anghydffurfiwr sydd, erbyn hyn, yn cael ei ystyried yn un o'r bobl fwyaf dylanwadol yn hanes Cymru – ac yn un o gymeriadau mwyaf anghyffredin oes Fictoria.
Roedd yn codi cywilydd ar bobl Llantrisant drwy fynd ar deithiau cerdded hir yn hollol noeth. Pan oedd e dros 80 oed, daeth yn dad i blentyn a'i alw'n Iesu Grist.
Pan fu farw'r plentyn, amlosgodd y corff yn gyhoeddus ac ennill yr achos llys dilynol, gan osod cynsail ar gyfer cyfreithloni'r dull amlosgi yn y Deyrnas Unedig.
Ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei amlosgi ar y bryn uwchlaw Llantrisant, ar goelcerth a defnyddiodd ddwy dunnell o lo.
Mae cerflun er cof am Dr Price yn sefyll yn falch yng nghanol tref Llantrisant. Mae modd cael gwybod rhagor am ei fywyd hynod ddiddorol yn rhan o Llwybr Treftadaeth Llantrisant.