Ym mynwent Llanwynno, ar ben y mynydd, mae bedd y rhedwr chwedlonol, Guto Nyth Brân.
Roedd Guto'n gallu rhedeg o fferm ei deulu yn Llwyncelyn, Y Porth, i Bontypridd ac yn ôl cyn i'r tegell ferwi. Yn ystod ei fywyd, enillodd filoedd o ginis yn wobr ariannol am rasio pawb.
Bu farw yn 37 oed ym 1737 ar ôl trechu'r cystadleuydd, Prince, drwy redeg pellter o 12 milltir mewn 53 munud.
Yn ôl pob sôn, wrth iddo groesi'r llinell derfyn cafodd ei longyfarch a'i guro ar ei gefn gan ei gariad, Siân o'r Siop, ond cwympodd i'r llawr a bu farw yn y fan a'r lle. Achos y farwolaeth oedd calon yn y lle anghywir.
Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal bob blwyddyn yn Aberpennar i ddathlu bywyd Guto Nyth Brân ac i gadw'r chwedl yn fyw.