Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon

Cyflwyniad

 

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
  • Hysbysiad preifatrwydd Gwasanaeth Caffael y Cyngor

Y Rheolwr Data

 

Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael eu prosesu wrth ddefnyddio'r Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon.

 

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

 

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

 

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Caffael:

 

E-bost: Caffael@rctcbc.gov.uk

 

Ffonio: 01443 281181

 

Neu drwy lythyr i: Caffael, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST


Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

 

Mae'r Gwasanaeth Caffael yn gyfrifol am bolisi a strategaeth caffael, effeithlonrwydd caffael, arloesedd, gwella a chyflawni cynlluniau caffael rhyngadrannol, gan gynnwys cydweithio â chyflenwyr a darparwyr er mwyn sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a llesiant diwylliannol ehangach ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

 

Y Gwasanaeth yma yw prif ffynhonnell cyngor arbenigol ar gaffael ac arfer orau yn y Cyngor. Mae'r gwasanaeth yn bwynt cyswllt gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer holl weithgareddau caffael.

 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

 

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol er mwyn cyfrifol ôl troed carbon;

  • Unrhyw fusnes/sefydliad sy'n dewis defnyddio'r Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

 

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i gyfrifo ôl troed carbon:

 

-        Enw'r sefydliad

-        Enw Cyswllt y Sefydliad

-        Ffôn

-        E-bost

-        Swydd yn y sefydliad

-        Trosiant blynyddol (ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw)

-        Gwerth y contract â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw)

-        Math o sefydliad (rhestr o gategorïau i ddewis o'u plith)

-        Rhif Cofrestru Cwmni:

-        Cyfanswm milltiredd blynyddol

-        Treuliant petrol, diesel (£)

-        Treuliant trydan (KWH)

-        P'un ai oes gyda chi ddarparwr trydan adnewyddadwy ai peidio

-        Treuliant trydan a nwy (KWH)

-        Defnydd o ddŵr

-        Gwastraff (nifer y bagiau o ailgylchu sych, gwastraff bwyd a gwastraff tirlenwi sydd gyda chi bob mis)

-        Data gwariant y gadwyn gyflenwi

 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

 

Mae'r Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon yn cynhyrchu amcangyfrifiad o ôl troed carbon sefydliadau trwy ddefnyddio data eu gwariant/treuliant ar gyfer eitemau gwahanol a'u lluosi nhw â ffactorau allyriadau carbon penodol.

Diben y cyfrifiannell yw ei gwneud hi'n hawdd i fusnesau gyfrifo eu hôl troed carbon ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw er mwyn deall ym mha feysydd y gellid lleihau'r allyriadau carbon.

Ar ôl gwneud hyn, bydd y Cyngor yn rhoi arweiniad i fusnesau er mwyn lleihau eu hôl troed carbon.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

 

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i gyfrifo ôl troed carbon yw;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Rhondda Cynon Taf - Gwneud Rhondda Cynon Taf yn Carbon Niwtral erbyn 2023

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

  • Bydd y cyfrifiannell ar gael i unrhyw fusnes sy'n awyddus i'w ddefnyddio - boed y busnesau hynny'n gyflenwyr cyfredol neu'n ddarpar gyflenwyr. Dim ond data sy'n cael eu cyflwyno gan y busnesau yma sy'n cael eu defnyddio i gyfrifo'r ôl troed carbon.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

 

Dydyn ni ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliadau eraill.

 

Proseswyr Data

 

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori o broseswr data rydyn ni'n ei ddefnyddio at ddibenion cyfrifo ôl troed carbon a'i gadw;

  • Darparwr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion ôl troed carbon am:

Faint o amser

Rheswm

3 blynedd

Er mwyn cadw cofnod o ymdrechion cyflenwyr (cyfredol a darpar gyflenwyr) i leihau eu hôl troed carbon. Dylid cyfrifo'r ôl troed carbon bob blwyddyn ariannol.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

 

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

 

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Caffael yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

 

E-bost: Caffael@rctcbc.gov.uk

 

Ffonio: 01443 281181

 

Neu drwy lythyr i: Gwasanaeth Caffael, Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST

 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

 

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

 

 

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

 

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk