Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Camerâu Corff CRC

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Amgen Cymru at ddibenion Camerâu a wisgir ar y Corff mewn Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw nodi gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Amgen Cymru (y cyfeirir atyn nhw gyda'i gilydd fel 'ni neu ein' yn yr hysbysiad yma) yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Camerâu a wisgir ar y Corff mewn Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod;

E-bostiwch: YmholiadauAmgen@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01685 870770

neu anfonwch lythyr at: Amgen Cymru, Bryn Pica, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae gan y Cyngor ac Amgen Cymru lawer o weithwyr yn gweithio yn ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a all fod mewn perygl o drais tra'u bod nhw'n gweithio.  A ninnau'n gyflogwr, mae gyda ni ddyletswydd gofal i sicrhau bod ein holl weithwyr yn ddiogel.

Oherwydd cynnydd mewn ymddygiad bygythiol gan ymwelwyr â’n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, rydyn ni wedi darparu camerâu y mae ein gweithwyr yn gwisgo ar y corff.  Mae'r camerâu corff yn cael eu gwisgo yn ystod oriau gwaith ac ond ar waith pan fydd y gweithiwr yn ei droi ymlaen os yw'n teimlo'n anghyfforddus neu mewn sefyllfa anodd.   

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan fydd y camerâu yn gweithredu, fydd dim recordiad cudd yn cael ei wneud.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol sy'n ymweld â'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned;

  • Aelodau o'r cyhoedd
  • Masnachwyr
  • Y rhai sy'n masnachu i'r sector fasnachol

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol pan fo'r Camerâu Corff yn gweithredu;

  • Recordiad Teledu Cylch Cyfyng
  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post a rhif ffôn
  • Rhif cofrestru'r cerbyd
  • Enw busnes os caiff ei ddangos ar eich cerbyd

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i weithgareddau;

  • Er mwyn sicrhau diogelwch ein gweithwyr wrth weithio ar y rheng flaen.
  • I nodi achosion o ymddygiad bygythiol neu ymosodol.
  • Er mwyn helpu i adnabod unigolion sydd wedi bod yn fygythiol neu ymosodol tuag at ein gweithwyr rheng flaen.
  • Er mwyn adroddrhoi gwybod am unigolion i Heddlu De Cymru os bernir bod angen hynny mewn achosion o ymddygiad bygythiol neu ymosodol.
  • Er mwyn rhoi gwybod am unrhyw droseddau amgylcheddol a allai fod wedi cael eu dal i Garfan Gorfodi Rhondda Cynon Taf.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol fel â chanlyn:

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6 (c) Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Erthygl 10, wedi'i awdurdodi gan Atodlen 1, Rhan 1 (1) Deddf Diogelu Data 2018 – Cyflogaeth, Nawdd Cymdeithasol ac Amddiffyn Cymdeithasol.
  • Deddf Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Byddwn ni'n derbyn y data yn uniongyrchol o gamerâu'r corff os bydd gweithiwr yn ei droi ymlaen.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Carfan Gorfodi Rhondda Cynon Taf  

Bydd data'n cael ei rannu os bydd trosedd amgylcheddol yn cael ei ddal ar gamerâu'r corff.

Heddlu De Cymru

Bydd data'n cael ei rannu i ymchwilio i achosion o ymddygiad ymosodol a chamdriniol tuag at weithwyr .

Proseswyr Data

Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n ei ddal yn ddiogel ac yn ei gadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

  • Cyflenwr System TG – Reveal Media Limited

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r recordiad am y cyfnodau canlynol:

Faint o amser

Rheswm

Recordiad Camera – 30 Diwrnod

Gofyniad statudol  

 

Nodwch, mewn achos o ddigwyddiad adroddadwy, gallai'r data gael eu cadw am hyd at 7 mlynedd at y diben hwnnw.

 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan. Os nad oes gwerth hirdymor neu dystiolaethol i'r wybodaeth, caiff ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn ynghylch diogelu data 

Mae'r hawl gyda chi i gwyno os ydych chi o'r farn nad ydyn ni wedi trin eich data personol yn gyfrifol ac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu ag Amgen Cymru yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bostiwch: YmholiadauAmgen@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01685 870770

neu anfonwch lythyr at: Amgen Cymru, Bryn Pica, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad/Address: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk