Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Allgymorth Tai

Hysbysiad preifatrwydd yn ymwneud â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Cwm Taf Morgannwg

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Cwm Taf Morgannwg.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu at ddibenion Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM).

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolwr gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Allgymorth Tai:

Ebost:  AllgymorthArbenigol@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 0738570165 / 07385406263

Neu drwy lythyr i: Carfan Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau, Llawr Cyntaf, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU.                                                                                                            

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau CTM yn garfan amlasiantaeth sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

  • Gwasanaethau Iechyd (GIG)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Barod
  • Mind

Caiff atgyfeiriadau eu gwneud i'r garfan yn bennaf gan ein darparwyr trydydd sector sy'n goruchwylio ein hosteli, lleoliadau llety dros dro a Phrosiectau Tai yn Gyntaf lle mae unigolion wedi'u nodi ac wedi cytuno i dderbyn triniaeth a/neu gymorth.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Rydyn ni'n prosesu datat personol yn ymwneud â'r unigolion canlynol rydyn ni'n ymdrin â nhw ac yn eu cefnogi o dan Ddeddf Tai Cymru 2014, gan gynnwys llety dros dro a phrosiectau Tai yn Gyntaf.

  • Defnyddiwr y Gwasanaeth
  • Manylion y bob sy'n byw yn eich cartref

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol:

  • Enw, dyddiad geni
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad (cyfredol a blaenorol), e-bost, rhif ffôn
  • Gwybodaeth iechyd gan gynnwys manylion unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd, manylion eich meddyg teulu
  • Anghenion cymorth sy'n gysylltiedig â thai
  • Manylion eich asesiad risg
  • Gwybodaeth am euogfarnau troseddol/troseddau
  • Manylion incwm ariannol

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu’r data personol i ddeall y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i;

  • ein helpu i ddeall y gwasanaeth/cymorth iechyd y mae angen i ni ei ddarparu i chi;
  • blaenoriaethu atgyfeiriadau i sicrhau ein bod ni'n diwallu anghenion personol ac yn atal digartrefedd;
  • ein helpu i asesu eich anghenion a thargedu'r cymorth cywir ar yr amser cywir; a
  • cwblhau atgyfeiriad i wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i ddarparu cymorth.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn:

  • rheoli ein gwasanaeth o ddydd i ddydd;
  • datblygu gwell dealltwriaeth o ddarpariaeth ein gwasanaeth, y gwasanaethau y mae angen i ni eu darparu a'r ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion; a sicrhau gwelliant parhaus mewn gwasanaeth.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i roi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Atodlen 1, Rhan 2 Deddf Diogelu Data

Statudol ac at ddibenion y Llywodraeth

Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl

  • Ymestyn amod yn Rhan 2 sy'n cyfeirio at fudd cyhoeddus sylweddol - Erthygl 10

Atodlen 1, Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data – bodlonir prosesu yn Rhan 2 o’r Atodlen yma ond bod gofyniad datganedig i’r prosesu fod yn angenrheidiol am resymau budd sylweddol y cyhoedd.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977
  • Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan y categorïau canlynol o unigolion neu sefydliadau;

  • yn uniongyrchol oddi wrthoch chi;
  • atgyfeiriadau gan wasanaethau eraill y Cyngor neu sefydliadau/trydydd partïon, er enghraifft Gweithiwr Cymdeithasol, Carfan/Darparwr Tai, aelod o’r Gwasanaeth Allgymorth Tai.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol i roi cymorth i chi.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Adrannau mewnol y Cyngor megis;

Gwasanaethau Cymdeithasol

Materion Tai

Gwasanaethau i Blant

Atgyfeiriad ar gyfer unrhyw gymorth ychwanegol y gallech fod â hawl iddo neu os oedd gyda ni unrhyw bryderon am eich diogelwch a’ch lles

Awdurdodau Lleol eraill

Cynorthwyo’r awdurdod lleol arall i asesu’r risgiau i chi'r defnyddiwr gwasanaeth neu eraill, os ydych chi'n ceisio cymorth gan yr awdurdod lleol hwnnw

Darparwyr Tai

Cynorthwyo'r darparwr tai i roi cymorth i chi gyda'ch anghenion iechyd a llety

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cynorthwyo i roi cymorth i chi gyda’ch anghenion iechyd (corfforol, meddwl a chamddefnyddio sylweddau) a llety

Darparwyr yn y sector gwirfoddol fel Barod, Mind, Adferiad

Cynorthwyo i roi cymorth i chi gyda’ch anghenion iechyd (corfforol, meddwl a chamddefnyddio sylweddau) a llety

Asiantaethau eraill y Llywodraeth fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf

Cefnogi rheoli risg ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw un sy'n gweithio gyda nhw

Proseswyr data

Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categori o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at y dibenion:

  • Darparwyr Systemau TG, ayyb

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion y Gwasanaeth Allgymorth Tai am:

Faint o amser

Rheswm

Y flwyddyn gyfredol a 6 blynedd (7 mlynedd)

 

Yn unol â pholisi cadw y Cyngor 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael ei gadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn yr hir dymor neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Allgymorth Tai yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • Rhif ffôn: 0738570165 / 07385406263
  • Neu drwy lythyr i: Carfan Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau, Llawr Cyntaf, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk