Skip to main content

Support @ Home Independent Living Sensors

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gweithwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Synwyryddion Byw'n Annibynnol

 

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Synwyryddion Byw'n Annibynnol.

Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi yn ymwneud â Synwyryddion Byw'n Annibynnol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Synwyryddion Byw'n Annibynnol.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Cymorth Gartref.

Drwy e-bostio: Alison.Field@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 425070

Neu trwy ysgrifennu at: Tŷ Elái, Dinas Isaf (Dwyrain), Trewiliam, Cwm Rhondda, CF40 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r garfan Cymorth Gartref yn rhoi cymorth i bobl fyw'n annibynnol. Un darn o offer mae'r garfan yn ei ddefnyddio yw Synwyryddion Byw'n Annibynnol.

Mae modd gosod y synwyryddion yng nghartrefi defnyddwyr y gwasanaeth sydd â phroblemau cofio neu ddementia.

Mae modd gosod y synwyryddion canlynol yn seiliedig ar anghenion unigol wedi'u pennu gan eich gweithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol. Dydy'r rhestr ddim yn gynhwysfawr:

  • Synwyryddion drws
  • Synwyryddion gwely
  • Synwyryddion cadair
  • Synwyryddion gweithgaredd wedi'u gosod ar eitemau megis tai bach, tegelli, tostwyr, blychau meddyginiaeth ac ati
  • Synwyryddion golau a gwres

Wrth i'r defnyddiwr gwasanaeth ymgymryd â'i weithgareddau dydd i ddydd, bydd y synwyryddion yn cael eu hysgogi ac yn creu data sy'n ein helpu ni i bennu'r gofal sydd ei angen er mwyn i'r defnyddiwr fyw'n annibynnol am mor hir ag sy'n bosibl.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r unigolion canlynol ar ôl gosod synwyryddion byw'n annibynnol:

  • Defnyddwyr Gwasanaeth
  • Aelodau teulu defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi gwneud cais am weld y data er lles yr aelod o'r teulu

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Pan mae synwyryddion byw'n annibynnol yn cael eu gosod byddwn ni'n prosesu'r data canlynol:

Defnyddiwr y Gwasanaeth

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhif System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
  • Iechyd, megis manylion salwch a cham eich salwch

Aelod teulu

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad e-bost

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n defnyddio'r synwyryddion byw'n annibynnol ac yn prosesu'r data personol ar gyfer y gweithgareddau canlynol. Dydy'r rhestr ddim yn gynhwysfawr:

  • Darparu synwyryddion byw'n annibynnol er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i fyw'n annibynnol am mor hir ag sy'n bosibl.
  • Monitro gweithgaredd a symud er mwyn pennu lefel gofal addas.
  • Rhoi rhybuddion i ni os oes unrhyw newid o ran ymddygiad neu arferion er mwyn i ni ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw argyfwng posibl.
  • Rhoi mynediad i aelodau o'r teulu at y data sydd ar gael gan ddefnyddio'r synwyryddion.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Synwyryddion Byw'n Annibynnol yw;

  • Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Gofal Iechyd neu Gymdeithasol - Erthygl 9 (2) - prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer meddyginiaeth alwedigaethol neu ataliol, i asesu gallu aelod o staff i weithio, diagnosis meddygol, darpariaeth systemau a gwasanaethau gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth o systemau a gwasanaethau gofal iechyd ar sail Cyfraith Ddomestig neu yn unol â chytundeb â gweithiwr iechyd proffesiynol a'r amodau a threfniadau diogelu sy'n cael eu crybwyll ym mharagraff 3

Atodlen 1, Rhan 1, Paragraff 2 - Deddf Diogelu Data 2018

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i; 

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Deddf Safonau Gofal 2000
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n casglu data yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth trwy synwyryddion gweithgaredd a monitro

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol ar gyfer Synwyryddion Byw'n Annibynnol.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu.

Pwy

ddiben

Aelodau o'r teulu

I gael mynediad at y data gweithgaredd a symud er lles aelodau'r teulu.

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Caiff data eu rhannu â gweithwyr iechyd sy'n gweithio yng ngharfanau amlddisgyblaethol RhCT er mwyn pennu'r lefel ofal a'r cymorth sydd eu hangen.  

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

  • Cyflenwyr System TG / Darparwyr Gwasanaeth

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion Synwyryddion Byw'n Annibynnol am:

Faint o amser

Rheswm

 

Rydyn ni'n cadw data synwyryddion am 7 mlynedd

 

 

Anghenion busnes yn unol â pholisi'r Cyngor

 

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Cymorth Gartref yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: supportathome@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 425070
  • Neu drwy lythyr i: Tŷ Elái, Dinas Isaf (Dwyrain), Trewiliam, Cwm Rhondda, CF40 1NY.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk