Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd rheoli eu hanghenion gofal a chymorth, o ganlyniad i anabledd, salwch neu wendid oherwydd eu bod yn heneiddio.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth lle bo angen a chyngor er mwyn cynnal a gwella'u hannibyniaeth trwy eu helpu nhw i reoli tasgau byw bob dydd mewn modd mor annibynnol ag sy'n bosibl.
Mae modd i'r gwasanaeth helpu gydag amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys cymorth o ran codi o'r gwely neu fynd i'r gwely gyda'r nos, helpu gydag ymolchi a gwisgo, rhoi cymorth ar adeg prydau a chymorth i'r teulu a ffrindiau er mwyn iddyn nhw barhau i roi'r gofal a'r cymorth sydd ei angen ar bobl.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r wybodaeth rydyn ei chasglu amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn cynnwys:
- enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt aelodau'r teulu a ffrindiau sydd ynghlwm â'ch gofal o ddydd i ddydd.
- enw, cyfeiriad, manylion cyswllt eich Meddyg Teulu.
- manylion am eich anghenion gofal a chymorth a sut mae modd bodloni'r rhain.
- manylion ynghylch y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen i gynnal neu wella'ch annibyniaeth, diogelwch a llesiant.
- manylion deilliant unrhyw risg o ran asesiadau codi a chario sy'n cael eu cyflawni.
- manylion ynghylch unrhyw anawsterau efallai rydych chi, eich cynhalwyr neu eich staff wedi cael wrth fodloni'ch anghenion.
- manylion ynghylch unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau sydd wedi digwydd wrth i'n staff fodloni'ch anghenion.
Er mwyn sicrhau bod gyda ni dealltwriaeth o'ch holl anghenion, efallai byddwn ni'n gofyn i chi, eich teulu neu weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill am wybodaeth bersonol iawn a sensitif am eich:
- anabledd, cyflwr neu salwch.
- anghenion golwg, clyw a chyfathrebu.
- anghenion ymataliaeth.
- iechyd meddwl a gwybyddiaeth.
- symudedd, deheurwydd a'r angen am offer a chyfarpar.
- anghenion meddygol.
- gofynion a dewisiadau meddygol (os yw'n addas).
- diddordebau cymdeithasol, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas).
- cartref a sut mae'n bodloni'ch anghenion.
- cynnwys y teulu a sut maen nhw'n eich cefnogi chi.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth rydyn ni'n ei chadw yn dod o'ch asesiad cychwynnol a fydd yn cael ei gyflawni gan:
- Carfan Cadw'n Iach Gartref
- Un Pwynt Mynediad RhCT
- Asesiad o'ch anghenion gofal a gafodd ei gynnal gan eich rheolwr gofal
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, gan gynnwys Meddygon Teulu
- Darparwyr Gofal yn y Cartref eraill
- Gwasanaethau eraill y Cyngor
Byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth o'n profiad o ddarparu gofal a chymorth i fodloni'ch anghenion. Rydyn ni'n cadw cofnod o'r deilliannau rydyn ni wedi'ch helpu i'w cyflawni a chofnod o'r hyn rydych chi efallai wedi gofyn i ni amdano, er enghraifft:
-
- cais am wybodaeth a chyngor.
- cais am ofal a chymorth ychwanegol.
- canmoliaeth a chwynion.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth i ddarparu gwasanaethau Cymorth yn y Cartref i chi. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys:
- Gwneud asesiad o'ch anghenion:
- Prosesu'ch atgyfeiriad ar gyfer Cymorth yn y Cartref.
- Gwneud asesiad o'ch anghenion personol.
- Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i greu asesiad cywir o'ch anghenion.
- Cofnod o sut rydyn ni wedi bodloni'ch anghenion chi ac unrhyw anawsterau mae'n bosibl ein bod ni wedi'i chael wrth fodloni'r anghenion hynny.
- Cadw cofnod o'n cysylltiad ni gyda chi, eich teulu a sefydliadau eraill sydd ynghlwm â darparu gofal i chi.
- Cynnal adolygiadau cyson o'ch anghenion ac adolygu sut mae'r gwasanaeth wedi bodloni'ch anghenion a sicrhau eich bod chi'n fodlon gyda'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
- Nodi eich anghenion a datblygu'ch Cynllun Darparu Gwasanaeth i fodloni'ch anghenion gofal a chymorth.
Trefnu gwasanaethau gofal a chymorth fel sy wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth
- Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner i drefnu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi.
- Comisiynu unrhyw wasanaethau gofal a chymorth trydydd parti sydd eu hangen.
- Trefnu mynediad i gartref gofal (e.e. yn barhaol neu ar gyfer seibiant) (lle bo angen).
- Cyfrifo unrhyw gyfraniad y mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ei wneud tuag at gost unrhyw wasanaethau rydych chi'n eu derbyn.
- Monitro pa mor dda mae darparwyr yn darparu gwasanaethau.
Nodwch: efallai byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i baratoi gwybodaeth reoli ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau'n iawn. Yn nodweddiadol, bydd yr adroddiadau yma yn cynnwys ffeithiau a ffigurau ac ni fyddan nhw'n cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n ei wneud yn bosib i'ch adnabod chi, ond efallai byddwn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i baratoi'r ffigurau yma.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Mae ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau cymorth yn y cartref i chi a bodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:
Gwybodaeth Bersonol:
Erthygl 6 1.(c),(e) - i fodloni ein rhwymedigaeth gyfreithiol a statudol o dan:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Safonau Gofal 2000
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth categori arbennig am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu duedd rywiol) yw:
Erthygl 9 2.(g) - i gyflawni'ch rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Safonau Gofal 2000
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Erthygl 9 2.(h) - Rhoi cymorth i ddarparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Nodwch: Er efallai byddwn ni'n gofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu'ch gwybodaeth bersonol ag eraill sydd ynghlwm â'ch gofal, nid yw caniatâd yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth bersonol o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
I ddysgu rhagor am gyfraith gyffredin dyletswydd cyfrinachedd, cliciwch yma.
6. Gyda phwy mae'r Cyngor yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?
Bydd yr wybodaeth rydych chi ac eraill wedi'i darparu i ni yn cael ei chofnodi yn eich asesiad a'ch Cynllun Darparu Gwasanaeth. Bydd peth o'r wybodaeth yma'n cael ei rhannu â staff sy'n eich cefnogi chi. Bydd rhannu'r wybodaeth sydd yn eich Cynllun Darparu Gwasanaeth yn lleihau'r angen i chi ddarparu'r un wybodaeth drosodd a throsodd i'r staff sydd ynghlwm â'ch gofal a'ch cymorth. Dydy yn ddim yn golygu y byddwn ni'n rhannu pob dim rydych chi ac eraill wedi'i rannu â ni. Byddwn ni ond yn rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen ar ein staff er mwyn darparu gofal a chymorth addas a diogel i chi.
Byddwn ni ond yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gydag adrannau eraill y Cyngor a sefydliadau allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'i Wasanaethau yn y Gymuned a Gwasanaethau i Blant. Mae modd i hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
- Eich Gweithiwr Cymdeithasol
- Darparwr Gofal
- Meddyg Teulu
- Nyrs
- Unrhyw berson neu sefydliad a all gwrdd â'ch anghenion gofal a chymorth.
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
Byddwn ni'n cadw cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben, at ddibenion gweinyddol.
Caiff cofnodion ynghylch anghenion iechyd eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
- E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
- Ffôn: 01443 425527
- Trwy lythyr: Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY.