Skip to main content

Homestep

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Cynllun Homestep.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Cynllun Homestep.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Cynllun Homestep.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Strategaeth Dai.

E-bostio: StrategaethDai@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 281136

Neu trwy ysgrifennu at: Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Diben cynllun Homestep yw  gwneud perchen ar dŷ yn fwy fforddiadwy i aelodau'r cyhoedd sydd ddim yn berchen ar dai. Rydych chi'n prynu'r tŷ am ganran o'i werth llawn ar y farchnad (70% fel arfer). Y Cyngor sydd biau'r gyfran sy'n weddill o werth y tŷ (h.y. 30%). 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i weinyddu Cynllun Homestep:

  • Ymgeiswyr  Cynllun Homestep

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i weinyddu Cynllun Homestep:

  •  Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhifau ffôn
  • Rhif yswiriant gwladol
  • Manylion banc
  • Morgais mewn egwyddor
  • Manylion gwaith
  • Manylion incwm

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i weinyddu Cynllun Homestep. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Cynnal gwiriadau perthnasol er mwyn sicrhau eich bod chi'n gymwys
  • Gwirio pwy ydych chi

O bryd i'w gilydd byddwn ni'n cynnal ymarferion adborth i wella ansawdd y gwasanaeth. Mae modd i'r rhain gynnwys cyfle i berchnogion cartref cynllun Homestep gael eu cynnwys mewn astudiaethau achos a fydd yn cael eu cyhoeddi ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor RhCT. Mae cymryd rhan mewn astudiaethau achos yn ddewisol a fydd astudiaethau achos ddim yn cael eu cyhoeddi heb eich caniatâd.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i weinyddu Cynllun Homestep;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Chi, os ydych chi'n mynegi diddordeb yng Nghynllun Homestep

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol yma i weinyddu Cynllun Homestep.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu.

Pwy

Diben

Datblygwyr eiddo

Enwebu’r prynwyr

Carfan dyrannu cyfreithiol ac eiddo

Cynnal gwaith cyfreithiol i weinyddu Cynllun Homestep

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion gweinyddu Cynllun Homestep;

-       Cyflenwyr systemau / darparwyr gwasanaeth TGCh

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Homestep am:

Faint o amser

Rheswm

Rhestr bostio – nes bod yr ymgeisydd yn optio allan

Caiff ebyst eu hanfon i roi gwybod am eiddo newydd sydd ar gael ac mae modd i ymgeiswyr ddewis peidio â'u derbyn pan nad ydyn nhw'n dymuno derbyn yr wybodaeth bellach

Dogfennau Cefnogi gan yr Ymgeisydd – Ar gyfer hyd y cytundeb a 12 mlynedd ar ôl hynny

At ddibenion monitro a chael gwared ar yr amodau yn unol ag Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Strategaeth Dai yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk