Skip to main content

Cofrestr Etholiadol

Mae'r ffordd rydyn ni i gyd yn cofrestru i fwrw pleidlais wedi newid

 cofrestrwch ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Pam ddylwn i gofrestru?

Mae llwyddo i gael morgais yn un o'r rhesymau dros fod ar y Gofrestr Etholwyr. Mae cael yr hawl i bleidleisio yn rheswm arall.

  • Os dydych chi ddim wedi'ch cofrestru, fyddwch chi ddim yn cael pleidleisio mewn Etholiadau.
  • Mae'n ofynnol o dan y gyfraith i chi gofrestru – mae dirwy o hyd at £1,000 os dydych chi ddim yn gwneud hynny.  Mae llawer o'r cwmnïau cerdyn credyd mawr yn cadarnhau'ch cyfeiriad chi yn ôl y Gofrestr Etholwyr. Os dydych chi ddim yn cofrestru, mae'n bosibl y byddwch chi'n cael eich gwrthod ar gyfer benthyciad, cytundeb ffôn symudol, morgais, cyfrif banc ac ati.

Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud. Defnyddiwch eich hawl i bleidleisio.

Pwy sy'n cael cofrestru?

Mae modd i chi gofrestru i bleidleisio os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol:

Yn Breswylydd (yn byw fel arfer) yng Nghymru ac yn 14 oed neu’n hŷn (ond fydd dim modd i chi bleidleisio yn etholiadau cyngor lleol a etholiadau'r Senedd nes eich bod yn 16 oed na phleidleisio mewn etholiadau Seneddol y DU, neu etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd nes eich bod yn 18 oed).

Rhaid i chi hefyd fod naill ai:

  • yn ddinesydd o Brydain, Gweriniaeth yr Iwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd, neu
  • yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu'n ddinesydd tramor sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU yn      ddinesydd o’r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros ynddi, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno/arni.

Mae modd i chi gofrestru ar-lein yma.

Bydd yn rhy hwyr i gwyno ar ddiwrnod yr etholiad os byddwch yn darganfod bod dim hawl gyda chi i bleidleisio. Gwnewch yn siŵr bod gyda chi'r hawl drwy sicrhau bod eich enw wedi'i gynnwys ar y gofrestr.

Cofiwch, os dydych chi ddim ar y Gofrestr Etholiadol, fyddwch chi DDIM yn cael pleidleisio mewn unrhyw Etholiad.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phleidleisio, a sut i gofrestru i bleidleisio, ewch i'r dudalen: Etholiadau – pleidleisio

Sut rydw i'n cofrestru a pha wybodaeth mae ei hangen arna i?

  1. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  1. Rhowch eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ychydig o fanylion eraill. Byddwch chi angen eich Rhif Yswiriant Gwladol hefyd. Bydd modd i chi ddod o hyd i'r rhif yma ar eich Cerdyn Yswiriant Gwladol neu ar waith papur      swyddogol, megis cyfloglenni neu lythyron mewn perthynas â budd-daliadau a chredydau treth
  2. Byddwch chi'n derbyn cadarnhad eich bod chi wedi cofrestru

Fel arall, mae modd i chi ofyn am ffurflen gais ar bapur neu gofrestru dros y ffôn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01443 490100.

Y Gofrestr Etholwyr

Mae cofrestri yn cael eu rheoli yn lleol gan Swyddogion Cofrestru Etholwyr. Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y Gofrestr Etholwyr a'r Gofrestr Agored (neu'r gofrestr olygedig neu'r gofrestr wedi'i golygu).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadau, er enghraifft, i sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wneud gwasanaeth rheithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae rhestr o gwestiynau gyffredin i'w chael ar ein tudalen benodol.

Y Gofrestr Agored

Mae'r Gofrestr Agored yn cael ei thynnu o'r Gofrestr Etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi ('optio allan'). Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais. Mae modd i chi ofyn i'ch manylion gael eu dileu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01443 490100 neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadau@rctcbc.gov.uk

Adran y Gwasanaethau Etholiadol

10-12 Heol Gelliwastad

Pontypridd

CF37 2BW

Ffôn: 01443 490100