Skip to main content
Eisteddfod
Mae’r Eisteddfod yn dechrau mewn ...

Croeso i'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn dod i Rondda Cynon Taf ym mis Awst 2024, wedi'i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Bydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 yn cael ei chynnal ym Mhontypridd, gyda'r Maes wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Edrychwn ni ymlaen at eich croesawu chi yma'r haf nesaf - mae gyda ni gymaint i'w weld a'i fwynhau. Rhagor:

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig, cymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda'r nos, gigiau, dramâu, arddangosfeydd a llawer yn rhagor. Mae’n achlysur hwyl i'r teulu sy'n annog pawb (siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg) i ddod i brofi'r cyfuniad unigryw o gystadlu a gŵyl. Mae'r Eisteddfod yn ŵyl gynhwysol sy'n croesawu pawb, does dim ots beth yw eich sgiliau Cymraeg chi, mae rhywbeth at ddant pawb ar y Maes!

Gallwch chi ddysgu rhagor am yr Eisteddfod a beth i'w ddisgwyl ar y Maes drwy glicio ar y ddolen isod

Pwyllgorau Apêl Lleol

Mae Pwyllgorau Apêl lleol bellach wedi cael eu sefydlu yng nghymoedd Rhondda, Cynon a Thaf ac mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn cwrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod a thrafod syniadau am weithgareddau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n gyfle gwych i'ch clwb CHI, eich ysgol CHI, neu’ch sefydliad CHI gymryd rhan! Mae pob cyfarfod pwyllgor yn ddwyieithog ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno. Ebostiwch eisteddfod2024@rctcbc.gov.uk am fwy o fanylion!

Noddi

Mae noddi neu gyfrannu gwobr yn yr Eisteddfod yn ffordd wych o gefnogi'r pwyllgorau apêl lleol drwy gydnabod unigolyn, busnes neu sefydliad yn gyhoeddus. Mae modd ichi ffeindio restr o wobrau yr Eisteddfod yma. Bydd pob ceiniog yn cael ei defnyddio er mwyn cynnal yr ŵyl ac mae'r Eisteddfod yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad.

Dysgu Cymraeg

Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, ddim wedi’i defnyddio ers sbel neu wedi meddwl dechrau dysgu o'r blaen, does dim lle gwell i ymarfer na'r Eisteddfod! Sicrhewch eich bod chi'n ymweld â Maes D (pentref dysgwyr Cymraeg yr Eisteddfod) yn ystod eich amser ar y Maes er mwyn dod o hyd i gwrs sy'n gweithio ichi.

Mae ystod eang o gyrsiau dysgu Cymraeg ar gael yn lleol gyda Dysgu Cymraeg, ac mae modd ichi ddod o hyd i restr o foreau coffi Cymraeg ar dudalen gweithgareddau Menter Iaith Rhondda Cynon Taf lle mae modd ichi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol.

COFIWCH: Defnyddiwch y Gymraeg sydd gyda chi, nid y Gymraeg rydych chi'n meddwl y dylech chi ei siarad.

Ymweld â Rhondda Cynon Taf

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu llety ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Mae Neuaddau Preswyl y Myfyrwyr ar Gampws Trefforest, Pontypridd, ar gael i’w harchebu fel ystafelloedd unigol neu fel fflatiau cyfan (i grwpiau o hyd at 6 o bobl) yn ystod Gorffennaf ac Awst 2024.

I archebu eich llety, ewch i wefan PDC

Yr hyn rydych chi efallai wedi'i fethu yng Ngheredigion 2022