Skip to main content

Eisteddfod Genlaethol 2024 I'w Chynnal Ym Mhontypridd

eisteddfod

Wrth dderbyn Tlws yr Eidalwyr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, heddiw (7 Awst), cyhoeddodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mai tref Pontypridd fydd cartref yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Gyda Pharc Ynysangharad yng nghanol y dref yn ffocws i fwyafrif y gweithgareddau a’r is-bafiliynau, bydd y Maes hefyd yn cynnwys rhannau o’r dref ei hun, gan greu Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy’n cyfuno’r ardal leol gyda’r ŵyl ei hun.

Meddai’r Cyng. Morgan OBE, “Mae’n bleser cyhoeddi mai Parc Ynysangharad ym Mhontypridd fydd cartref y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

“Mae Pontypridd yn ardal wych i gynnal canolbwynt yr Eisteddfod, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych y dref yn golygu y bydd yr Eisteddfod yn hygyrch i ymwelwyr o Rhondda Cynon Taf ac o Gymru gyfan.  Byddwn yn edrych ar sut i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn allweddol i’r Eisteddfod, a chyda Metro De Cymru ar y gorwel, bydd gan Bontypridd 24 o drenau'r awr yn rhedeg drwy’r orsaf o’r Cymoedd a Chaerdydd.

“Rydyn ni am i bawb yn Rhondda Cynon Taf i ddangos i weddill Cymru beth sy’n ein gwneud ni mor arbennig!  Mae’r Eisteddfod i chi, mae’r Eisteddfod i mi, mae’r Eisteddfod i bawb.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf ac at weld rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i drigolion lleol dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer yr Eisteddfod.”

Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser, “Mae’n braf iawn gallu cyhoeddi mai ym Mhontypridd y cynhelir yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.  Mae pawb wedi bod ar dân eisiau cael gwybod.  Mae’r trafodaethau wedi bod yn rhai hir, gyda’r sgyrsiau cychwynnol i ddod â’r Brifwyl i ardal Rhondda Cynon Taf wedi’u cynnal nôl yn 2017.  Nid ar chwarae bach mae dod â gŵyl mor fawr â’r Eisteddfod i gymoedd anwastad a bryniog y de ddwyrain, ond rydyn ni wrth ein boddau i gael rhannu’r newyddion mawr gyda phawb.

“Mae’r gwaith codi hwyl ac arian ar draws Rhondda Cynon Taf yn mynd yn ardderchog, gyda’r pwyllgorau i gyd yn brysur yn trefnu gweithgareddau o bob math.  Mae’r gefnogaeth yn lleol a chenedlaethol yn arbennig iawn, a’r ffaith ein bod ni’n dychwelyd i’r ardal a fu’n gartref i’r Eisteddfod fodern gyntaf nôl yn 1861 wedi tanio dychymyg pawb.

“Roedd y Cyhoeddi yn Aberdâr ymysg y gorau ers blynyddoedd lawer, gyda thros chwe chant o drigolion lleol yn gorymdeithio drwy’r dref cyn dod ynghyd mewn seremoni hyfryd, lle cyhoeddwyd y Rhestr Testunau.  Ac rwy’n falch o ddweud fod y gyfrol hefyd yn gwerthu’n ardderchog, felly cofiwch fachu eich copi chi er mwyn gweld yr amrywiaeth o gystadlaethau sy’n eich aros yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

“Wrth i ni gyhoeddi mai ym Mhontypridd y bydd y Maes y flwyddyn nesaf, mae’n bwysig pwysleisio bod yr Eisteddfod hon yn perthyn i bawb ar draws Rhondda Cynon a Thaf.  Mae’r brwdfrydedd a’r egni a’r cyfeillgarwch rydyn ni wedi’i brofi wrth gychwyn ar y gwaith yn dangos bod dod â’r Brifwyl yn ôl i’r ardal yn bwysig iawn i’r trigolion lleol.  Aberdâr oedd cartref yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ymweld â’r ardal yn 1956, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei chroesawu’n ôl i ardal Taf y flwyddyn nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers 1893.”

Cyhoeddwyd lleoliad yr Eisteddfod mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod brynhawn Llun, wrth i Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn gyflwyno Tlws yr Eidalwyr i Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan.  Cyflwynwyd Tlws yr Eidalwyr (Y Tlws Heddwch) i’r Eisteddfod yn 1986, ac ers hynny, fe’i cyflwynwyd i gartref yr Eisteddfod ddilynol bob blwyddyn.  Rhoddwyd y cwpan i’r Eisteddfod gan gyn-garcharorion rhyfel o’r Eidal i gydnabod caredigrwydd pobl Cymru yn ystod eu cyfnod mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn Henllan, Ceredigion rhwng 1942 a 1946.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad ac o amgylch tref Pontypridd o 3-10 Awst 2024.  Am ragor o wybodaeth ewch i

Wedi ei bostio ar 07/08/23