Skip to main content

Ewch â'r C*ch* 'da chi!

Mae mesurau baw cŵn llymach wedi dod i rym yn Rhondda Cynon Taf, er mwyn mynd i'r afael â pherchenogion anghyfrifol y Fwrdeistref Sirol.

Baw cŵn yw un o'r prif faterion mae trigolion yn sôn amdano i'r Cyngor - ac mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd yn gynharach eleni, roedd pawb o blaid gweithredu. Wedi'i gefnogi gan ei ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi!, mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r mesurau baw cŵn newydd i helpu i gadw'r Fwrdeistref Sirol yn ardal lân.

Daeth Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i rym o 1 Hydref, 2017, ac mae'r rheolau newydd yn nodi'r canlynol:

  • RHAID i berchenogion cŵn godi baw cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • RHAID i berchenogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Caiff cŵn eu GWAHARDD o holl ysgolion, mannau chwarae i blant, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg ym mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.

Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn crwydro'r strydoedd o 1 Hydref, a bydd perchenogion cŵn anghyfrifol yn wynebu dirwy mwy o £100.

Bydd y Cyngor yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fisol i roi gwybodaeth am faint o ddirwyon sydd wedi’u cyflwyno. Does dim modd inni fod yn fwy manwl ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd amser swyddogion a’r adnoddau sydd eu hangen i gasglu’r fath wybodaeth.

Biniau baw cŵn, arwyddion a swyddogion gorfodi newydd

Mae'r ymgyrch yn rhoi neges glir i berchenogion cŵn anghyfrifol - mae'r Cyngor yn cymryd problemau
baw cŵn o ddifrif calon, ac mae'n cynnig rhagor o adnoddau er mwyn dal y drwgweithredwyr.

Mae baw cŵn yn hyll ac anniben. Ar ben hynny, weithiau bydd ganddo oblygiadau difrifol ar gyfer iechyd plant ac oedolion. Gall hyn gynnwys tocsocariasis.

Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan drigolyn Collin Smith, a ddioddefodd doresgyrn agored i'w goes wrth chwarae rygbi yng Nghwm Rhondda yn 1979 pan oedd yn 15 oed. Chwaraewr addawol dan 15 oed i Gymru oedd Collin nes iddo ddal haint o faw cŵn ar y cae chwarae. O ganlyniad i'r haint bu raid trychu'i goes islaw'r pen-glin.

Caiff tua 114 tunnell o faw cŵn eu casglu o strydoedd a biniau Rhondda Cynon Taf bob blwyddyn, er bod 1,000 o finiau ar gyfer baw cŵn wedi'u lleoli ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Bob blwyddyn, caiff 150 o finiau yn ychwanegol eu gosod mewn mannau poblogaidd ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf.

Ym mha ardaloedd mae cŵn wedi cael eu gwahardd?

Er mwyn cael gwybod ym mha ardaloedd mae cŵn wedi cael eu gwahardd, a'r ardaloedd cyfagos lle mae rhaid cadw cŵn dan reolaeth, defnyddiwch y ddolen yma:

www.rctcbc.gov.uk/MapiauGDMC

Mae mapiau unigol sy’n dangos y rheolau newydd ar gyfer pob cae chwarae, maes chwarae, ysgol a mynwent hefyd wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Defnyddiwch y ddolen yma.

Cwestiynau Cyffredin

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn perthynas â’r rheolau baw cŵn newydd, cliciwch ar y cyswllt isod

Tudalennau Perthnasol