Skip to main content

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT

Nodwch: Mae'r Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.   
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i ffyniant bro ledled y DU trwy gyfrannu at bob un o'r amcanion ffyniant bro:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy ehangu'r sector breifat, yn enwedig yn y llefydd sydd angen y cymorth yma
  • Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y llefydd ble mae diffygion o ran hyn
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd sydd â diffyg cymorth lleol

Am ragor o wybodaeth bwriwch olwg yma: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Yn Rhondda Cynon Taf

Mae Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer cymunedau a pherthnasau, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymunedol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno'r Microgrant Cymunedol er mwyn cyflawni'r nodau canlynol:

  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll

Mae'r grant Cymunedol ar gael i sefydliadau dielw personol, sefydliadau yn y Trydydd Sector a Grwpiau Cymunedol, gan gynnwys Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Chwmnïau Cyfyngedig drwy Warant sy'n gallu dangos bod gyda nhw Gyfansoddiad neu Ddogfen Lywodraethol; a Chyfrif Banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnod ar wahân (sydd ddim yn perthyn i'w gilydd).

Nodwch: Mae'r Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.  

Os oes angen cymorth arnoch chi neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01443 425368 neu e-bostio GrantCymunedolCFfGCBSRhCT@rctcbc.gov.uk.