Skip to main content

Daniel yn cael cartref newydd am fargen!

 

Mae Daniel Jones, sy'n trin gwallt, wedi cael ei gartref ei hunan am ddim ond rhan o bris y farchnad, diolch i gynllun arloesol "homestep" Cyngor Rhondda Cynon Taf. 

Mae Daniel, 32 oed, yn un o bron 200 o drigolion eraill sydd eisoes wedi prynu'u cartref am dua 70% o'u gwerth ar y farchnad trwy'r cynllun. Yn rhan o'r cynllun mae'r Cyngor yn gweithio gyda datblygwyr i bennu canran o ddatblygiadau newydd ar gyfer y rheiny sy'n gymwys ac sy'n prynu cartref am y tro cyntaf. 

Mae Daniel, sy'n gweithio mewn siop trin gwallt yn y Bont-faen, yn dweud na fyddai modd o gwbl iddo fforddio prynu cartref heb gynllun Homestep, ac mae'n canmol y cynllun i'r cymylau wrth sôn amdano fe wrth bobl eraill. 

"Heb y cynllun, fyddai dim modd i fi  brynu fy nghartref fy hunan", meddai. "Byddwn i wedi bod yn rhentu hyd byth. Nawr, mae fy morgais i'n llai na'r hyn oedd fy rhent! 

"Dw i'n teimlo'n fwy diogel nawr fy mod i'n berchen ar fy nghartref fy hunan. Allwn i byth bod yn hapusach o ran ansawdd y cartref, ac roedd y broses ei hun yn hawdd iawn, gyda staff cymwynasgar y Cyngor yn rhoi cymorth i fi bob cam o'r ffordd. 

"Yn ogystal ag argymell y cynllun i bawb sy'n ystyried prynu cartref am y tro cyntaf, dw i hefyd wedi argymell y cynllun i ffrindiau a'r teulu gan fy mod i'n gwybod gymaint y gall eu helpu nhw i brynu eu cartref cyntaf." 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: "Mae cynllun Homestep wedi bod yn llwyddiant enfawr, ac mae e wedi'n galluogi ni i weithio gyda datblygwyr i gynnig cartrefi newydd sbon i bobl sy'n prynu am y tro cyntaf am bris fforddiadwy. 

"Yn amlach na pheidio, bydd y rhain yn wynebu talcen caled i geisio codi digon o arian ar gyfer blaendaliadau mawr, neu fyddan nhw ddim yn ennill digon i sicrhau'r morgais sydd ei angen i brynu'u cartref eu hunain. 

"Mae cynllun Homestep yn ateb i hynny, ac mae'n rhoi'r modd i'r rheiny sy'n prynu am y tro cyntaf i brynu cartrefi ar safleoedd datblygiadau newydd. Nid yn unig yw hynny o gymorth mawr iddyn nhw, ond mae'n rhoi hwb i'n marchnad dai a'r rhannau hynny o'r economi sy'n dibynnu ar y farchnad. 

"Byddwn i'n cynghori unrhyw un sy'n chwilio am eu cartref cyntaf i gysylltu â'n carfan materion tai i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a'r opsiynau eraill sydd ar gael. 

Mae cynllun Homestep yn cynnig tai sydd newydd eu hadeiladu ar ôl i'r Cyngor weithio gyda'r datblygwr i sicrhau cartrefi yn rhan o ddatblygiad newydd. 

Dewisodd Daniel ei gartref newydd ar safle Persimmon yn Chapel Gate, Pentre'r Eglwys am 70% o werth y farchnad. Mae'r Cyngor yn cadw'r rhan sy'n weddill o werth rhydd-ddaliadol y cartref.

Oherwydd mai dim ond morgais sy'n seiliedig ar 70% o werth y cartref sydd ei angen ar y prynwr, mae'n llai drud i'r unigolyn. Mae cynilo ar gyfer blaendaliadau mawr, neu ennill digon i fforddio morgais mawr yn her i lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf sy'n prynu'u cartref cyntaf.

Mae modd i'r rheiny sy'n chwilio am eu cartref cyntaf yn Rhondda Cynon Taf i ymuno  â'rRhestr Gysylltu Homestep fel bydd modd iddyn nhw glywed pan fydd cartrefi newydd ar gael.

I weld y cartrefi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i wefan HomefinderRCT.

Hoffech chi ragor o gyngor ar y cynllun?  Anfonwch ebost i homestep@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 21/09/2017