Skip to main content

Her Ailgylchu Gwisg Ysgol

Mae disgyblion ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf wedi casglu 1.5miliwn gram o hen wisgoedd ysgol. Bydd y Cyngor nawr yn ailddefnyddio neu'n ailgylchu'r dillad yma.

Cafodd Her Ailgylchu Gwisg Ysgol 2017 ei lansio gan y Cyngor ym mis Medi. Roedd gofyn i ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol gasglu cynifer o hen wisgoedd ysgol ac eitemau does dim eu heisiau â phosibl, er mwyn lleihau nifer yr eitemau sy'n cael eu gwastraffu.

Ddydd Mercher, 6 Rhagfyr, aeth y tair ysgol a gasglodd y pwysau mwyaf o ddillad fesul disgybl i dderbyn eu gwobrau yn Nhŷ Glantaf yn Nhrefforest. Tŷ Glantaf yw un o saith Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor.

Cliciwch yma i gael cip ar luniau o Wasanaeth Gwobrwyo Her Ailgylchu Gwisg Ysgol 2017

Enillodd Ysgol Gynradd Coed-y-lan ym Mhontypridd y gystadleuaeth gyfan ar ôl casglu mwy na 94,000gram o ddillad. Mae hynn cyfateb i 758g fesul disgybl! Aeth naw disgybl o Gyngor Eco'r ysgol i Dŷ Glantaf ddydd Mercher. Bydd y wobr o £300 yn cael ei gwario ar offer chwarae ar gyfer iard yr ysgol.

Ysgol Babanod Llwyncelyn

Enillodd Ysgol Babanod Llwyncelyn o Gwm Rhondda'r ail wobr. Cafodd y wobr o £100 ei chyflwyno i 13 o Bencampwyr ac aelodau Cyngor Eco'r ysgol. Daeth Ysgol Gynradd Penderyn o Gwm Cynon yn drydedd, daeth naw cynrychiolydd o Gyngor Eco'r ysgol i gasglu gwobr £50 yr ysgol.

Yn ystod yr ymweliad â Thŷ Glantaf, cafodd y disgyblion gyfle i weld pentyrrau o'r hen wisgoedd ysgol a gasglwyd ar gyfer eu hail-ddefnyddio a'u hailgylchu. Cyflwynodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar Faterion yr Amgylchedd a Hamdden sieciau mawr a thystysgrifau i'r disgyblion.

Yn y cyfamser, roedd masgot ailgylchu'r Cyngor, Rhys Cycle, wedi galw heibio er mwyn llongyfarch y disgyblion ar eu hymdrechion ailgylchu arbennig.

Ysgol Gynradd Penderyn

Roedd cyfanswm o 27 ysgol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a chafodd 1,639,905g o ddillad eu casglu. Mae hynny bron 500,000g yn fwy na'r hyn a gafodd ei gasglu ar gyfer y gystadleuaeth llynedd.

Meddai'r Cynghorydd Crimmings: "Llongyfarchiadau i bob ysgol a gymerodd ran yn her ailgylchu gwisg ysgol ac a gasglodd gymaint o hen ddillad y bydd modd eu hailddefnyddio. Llongyfarchiadau arbennig i'r tair ysgol fuddugol - Ysgol Gynradd Coed-y-lan, Ysgol Babanod Llwyncelyn ac Ysgol Gynradd Penderyn.

"Roedd yn fraint cwrdd â'r disgyblion ifainc, brwdfrydig yma ddydd Mercher. Er eu bod nhw'n ifanc, maen nhw'n deall pwysigrwydd ail-ddefnyddio ac ailgylchu'n eitemau, yn hytrach na'u hanfon nhw i'r safle tirlenwi.

"Roedd y Cyngor yn cynnig cyfle i bob un o'r 27 ysgol a gymerodd ran i gadw ychydig o'r dillad a gafodd eu rhoi er mwyn eu hail-ddefnyddio. Hefyd, cafodd eitemau addas eu cynnig i siop ailddefnyddio'r Cyngor, The Shed, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant, er mwyn dod o hyd i gartref newydd iddyn nhw.

"Cafodd gweddill y dillad eu hailgylchu gan y Cyngor - felly cafodd pob eitem a gafodd ei chasglu gan y disgyblion naill ai ei hailgylchu neu'i hail-ddefnyddio.

"Mae ein hymdrechion o ran ailgylchu yn talu ar eu canfed! Yn gynharach yn y flwyddyn, dangosodd ffigyrau bod y Cyngor wedi llwyddo ailgylchu 64% o'i holl wastraff yn 2016 - roedd hyn yn record ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac yn ffigwr sy'n well na chyfartaledd Cymru (63%) a tharged Llywodraeth Cymru (58%). Mae hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda i wella'n cyfraddau ailgylchu, a bwrw'r targed uwch o 70% erbyn 2024-25."

Meddai Robert James, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed-y-lan: "Mae'r math yma o gystadleuaeth yn dangos pwysigrwydd ailgylchu, a chasglodd y disgyblion gymaint o wastraff o ran gwisg ysgol. Roedden ni wedi synnu ar gymaint o bethau roedd modd eu hailgylchu.

"Roedd hyn yn weithgaredd defnyddiol er mwyn dangos i blant ifainc ba mor bwysig yw hi i ailgylchu."

Wedi ei bostio ar 08/12/17