Skip to main content

Yn barod ar gyfer y tywydd gaeafol

Pan gawn ni ragolygon o  eira neu iâ i Rondda Cynon Taf, bydd carfan priffyrdd y Cyngor yn bwrw ati ar unwaith. Dyma'r amser iddyn nhw roi eu dull rhagweithiol o fynd ati ar waith i gadw preswylwyr a chymudwyr yn symud yn ddiogel ar ein ffyrdd.

O 1af Hydref i 30ain Ebrill, mae'r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth cynnal a chadw gaeaf. Bydd y garfan yma yn cynnal a chadw 1,250km o ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf i baratoi ar gyfer unrhyw ymweliad annisgwyl gan Siôn Barrug.

Cynllun y Cyngor ar gyfer cynnal gwasanaethau yn y gaeaf

Mae ffyrdd Rhondda Cynon Taf  sydd â blaenoriaeth wedi'u pennu yn Rhwydwaith Graeanu Ymlaen Llaw. Dyna 429km o ffyrdd i'w trin gan 20 o gerbydau graeanu pwrpasol yn nwylo Carfan Ôl-oriau'r Swyddfa bob awr o bob dydd y Cyngor. Wrth i'w cerbydau fynd dros y Rhwydwaith dim ond unwaith, byddan  nhwwedi taenu rhwng 50 a 70 o dunelli dros y ffyrdd sy'n cael eu defnyddio amlaf yn Rhondda Cynon Taf.

Rydym ni wedi gosod dyfeisiau yn y cerbydau graeanu i gynorthwyo aelodau o Garfan y Priffyrdd i ddilyn pob llwybr, ac i reoli faint o halen sy'n cael ei daenu. Mae'r dyfeisiau wedi'u rhaglenni i ryddhau'r faint gywir o halen ar gyfer cyflwr presennol y
tywydd, heb wastraffu halen.

Gwaith Cynnal a Chadw Adeg y Gaeaf ar draws Rhondda Cynon Taf: Gwybodaeth i chi

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â
chyfrifoldeb am y Priffyrdd:
“Mae'r Cyngor yn sicrhau'r preswylwyr ein bod yn barod unwaith eto am ba dywedd bynnag a ddaw'r gaeaf yma. "Mae'r Tîm Priffyrdd yn barod i fwrw iddi i drin y ffyrdd mewn eira a thywydd rhewllyd.

“Yn graidd i gynllun cynnal a chadw gaeaf y Cyngor mae nod cynnal llif traffig diogel, neu'i adfer mor fuan â phosibl, i breswylwyr Rhondda Cynon Taf ac i'n hymwelwyr. Bydd hyn yn sicrhau fod gyrwyr yn profi cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl ar ein ffyrdd.

“Mae gennym ni weithlu pwrpasol i weithredu cynllun bob awr o bob dydd y Cyngor. Bydd modd i'n staff pwrpasol wneud llawer o'r gwaith argyfwng yma yng nghanol y nos, pryd y bydd y mwyafrif o breswylwyr Rhondda Cynon Taf yn cysgu. Fe hoffwn i ddiolch i'r staff am eu hymroddiad parhaus bob awr o'r dydd a'r nos drwy gydol y gaeaf. Bydd eu hymdrechion o fudd i ni i gyd.”

Hoffem ni atgoffa preswylwyr mor bwysig yw hi, yn ystod tywydd garw i barcio ceir yn ddiogel. Cofiwch adael digon o le i gerbydau graeanu fynd heibio.

A chofiwch nad yw'r biniau graean yno i bobl ddodi'r graen ar eu llwybrau troed a lleiniau parcio eu hunain. Er mwyn trin priffyrdd a llwybrau troed cyhoeddus maen nhw'n cael eu cadw'n llawn. Hoffem ni ofyn i'n preswylwyr sicrhau, lle bo modd, taw preswylwyr oedrannus a llai symudol sy'n cael blaenoriaeth gyda'r biniau graean.

Wedi ei bostio ar 07/12/17