Skip to main content

Sialens Ddarllen yr Haf yn llwyddiant mawr

Cymerodd dros 850 o blant rhwng 4 ac 11 oed ran yn Sialens Ddarllen yr Haf RhCT eleni.

Cymerodd pob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol ran yn y sialens, a darllenodd y plant dros 19,000 o lyfrau.

Roedd ymgyrch y Cyngor, ar y cyd â'r elusen genedlaethol BookTrust, yn llwyddiant ysgubol. Dyma ymgyrch sy'n annog plant i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf.

Nod Sialens Ddarllen yr Haf yw annog plant i ddarllen o leiaf 6 llyfr dros gyfnod pan mae'u sgiliau llythrennedd yn tueddu dirywio.

Eleni, y thema oedd Anifail–Ysbiwyr ('Animal Agents'). Roedd y thema yn ymwneud ag asiantaeth ditectif, sydd ag anifeiliaid clyfar yn gweithio iddi, oedd yn gwneud eu gorau glas i ddatrys achos â chymorth eu ffrindiau.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes, gyda chyfrifoldeb dros Lyfrgelloedd: "Dyma fenter bwysig iawn i ni. Mae'n helpu i wella sgiliau llythrennedd, yn ystod cyfnod hwyl pan nad yw rhai plant yn ystyried darllen.

"Dyma ffordd hwyl o'u hannog nhw i ddarllen yn ystod y gwyliau. Rwy'n hynod falch ein bod, drwy weithio gyda'r Asiantaeth Ddarllen, wedi annog dros 850 o blant yn RhCT i ddarllen dros 19,000 o lyfrau dros yr haf.

"Roedd y plant yn dwlu ar y thema eleni. Rwy'n siwr bod y plant a'u rheini wrth eu boddhau yn treulio amser gyda'i gilydd, gan ddatrys cliwiau a chasglu sticeri."

Mae 13 o lyfrgelloedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Galwch heibio i'ch cangen leol i weld beth sydd ar gael. Mae pob un ohonyn nhw'n cynnig mynediad di-wifr AM DDIM, ystod eang o lyfrau a CDs, yn ogystal â'r fenter Dydd Gwener Digidol, sy'n helpu pobl i gyrchu'r we a datblygu'u sgiliau TG.

Wedi ei bostio ar 13/11/17