Mae Showaddywaddy yn perfformio ers pedwar deng mlynedd, ac yn dal mor boblogaidd ag erioed. Trefnwyd iddynt berfformio'u holl lwyddiannau mwyaf yn Theatr y Colisëwm yn Aberdâr ar 19eg Hydref.
Daeth dau grŵp at ei gilydd i ffurfio Showaddywaddy, yng Nghaerlŷr yn y 1970au. Maent wedi gwerthu dros 20miliwn o recordiau. Maent yma o hyd yn teithio'r byd i ganu eu cerddoriaeth roc a rôl.
Daeth eu record sengl cyntaf, Hey Rock & Roll, allan ym mis Ebrill 1974. Cyrhaeddodd hyn i Rif 2 yn siartiau cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Daeth eu llwyddiant mawr nesaf, Three Steps To Heaven, i'r un safle ym 1975.
Daeth Under The Moon of Love , eu cân gyntaf i gyrraedd Rhif 1, frig y Siartiau 41 o flynyddoedd yn union yn ôl, ym mis Hydref 1976. Daeth llu o lwyddiannau mawr eraill i ddilyn, gan gynnwys A Little Bit Of Soap, Pretty Little Angel Eyes a Blue Moon.
"Rydym wrth ein bodd yn croesawu Showaddywaddy i Rondda Cynon Taf ac i ganolfan eiconaidd Theatr y Colisëwm," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden.
"Mae nifer anferthol o ddilynwyr gan y band, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'u selogion yn sleifio draw i Aberdâr am noson hudolus o roc a rôl wrth i Showaddywaddy ein tywys ar daith drwy'u gyrfa faith.
“Byddwn ni'n cyflwyno rhaglen amrywiol o adloniant yn ein dwy theatr gydol y flwyddyn. Cynigiwn rywbeth i bobl o bob oed a chwaeth. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb.”
Bydd Showaddywaddy yn rhoi cyngerdd yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ar ddydd Iau, 19eg Hydref (7.30yh). £19.50 yw pris tocyn. Hoffech chi archebu un? Croeso i chi alw'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444, neu ymweld ag https://rct-theatres.co.uk/cy/
Wedi ei bostio ar 18/10/17