Skip to main content

Cabinet yn cytuno ar gynllun peilot ar gyfer Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref

Mae Aelodau o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno ar gynllun peilot ar gyfer Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref newydd, fydd yn cael ei roi ar brawf yn Aberpennar a Thonypandy.

Daeth y Cabinet at ei gilydd ar 19 Medi i ystyried y cynllun, fydd yn cynorthwyo masnachwyr a landlordiaid i wella blaenau eiddo canol tref.

Bydd y cynllun un flwyddyn, wedi'i ariannu gan fuddsoddiad y Cyngor gwerth £50,000, yn cael ei roi ar brawf yn ardaloedd manwerthu Aberpennar a Thonypandy. Yn dilyn y cynllun peilot, mae'n bosibl y bydd y grant yn cael ei ymestyn i bob tref yn y Fwrdeistref Sirol.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae gwella canol ein trefi yn flaenoriaeth i'r Cyngor.

Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref yw'r fenter ddiweddaraf i gael ei chyflwyno i gefnogi ein masnachwyr – yn dilyn cyflwyno'r cynllun parcio am ddim yn Nhonypandy, Y Porth ac Aberpennar, a lleihau costau parcio yn Aberdâr a Phontypridd ym mis Ebrill.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cynlluniau cyhoeddus i adolygu llif cerddwyr a cherbydau yng nghanol tref Tonypandy, yn dilyn sylwadau gan Gynghorwyr, trigolion a masnachwyr lleol.

 "Bwriad y Grant yw helpu i wneud canol ein trefi yn ardaloedd mwy bywiog i ymweld â nhw a fydd, yn ei dro, yn hyrwyddo buddsoddi sector preifat yn y stryd fawr.

"Bydd sesiwn agored ar gyfer masnachwyr canol tref yn Nhonypandy ac Aberpennar, ac mae'n bosibl bydd modd i drefi eraill Rhondda Cynon Taf fanteisio ar y grant yn y dyfodol."

Bydd y cynllun yn caniatáu i fasnachwyr a landlordiaid, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar eiddo gwag, gyflawni mân waith gwella a chadw – megis gwaith paentio, araenu powdr ar gloriau a gwaith trwsio.

 Bydd raid i'r gwaith gael ei gynnal gan gontractwr dibynadwy, a bydd y cynllun yn cyfrannu mwyafswm o 75% tuag at gostau cymwys – gydag uchafswm grant o £1,000. Mae'n bosibl y bydd grant pellach hyd at £300 (cyfraniad uchaf o 75%) ar gael, lle mae angen llogi sgaffaldiau neu sgip er mwyn cyflawni'r gwaith.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail y cyntaf i'r felin, ac mae ceisiadau wedi'u cyfyngu i un fesul pob eiddo. Bydd y Cyngor yn rhoi manylion pellach i chi am y cynllun peilot cyn bo hir.

Wedi ei bostio ar 22/09/2017