Skip to main content

Y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo prydles Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair

Mae'r Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo prydles Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn Aberdâr i Age Connects Morgannwg. Bydd y brydles yn para 99 o flynyddoedd. Mae gan yr elusen gynlluniau gwerth £1.1miliwn i wella'r gwasanaeth.

Mae'r elusen, sy'n cynnig gwasanaeth i'r henoed yn yr ardal leol, eisiau trawsffurfio'r Ganolfan yn hwb newydd ar gyfer y gymuned. Bydd yr hwb yn cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau. Ym mis Gorffennaf cytunodd y Cabinet i ganiatáu i'r elusen gynnal proses ymgynghori cyn cyflwyno cais am gyllid er mwyn ailddatblygu'r Ganolfan.

Mewn cyfarfod ar 19 Medi, trafododd y Cabinet ynglŷn â throsglwyddo'r Ganolfan i'r elusen drwy gynllun #RhCTGydangilydd. Mae'n amodol ar Age Connects Morgannwg yn derbyn cyllid gwerth £1.1miliwn gan Gronfa Loteri Fawr. Bydd y penderfyniad yma'n cael ei wneud ym mis Chwefror 2018. Mae hefyd yn dibynnu ar gytuno i adleoli gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Santes Fair.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant: "Trafododd y Cabinet adroddiad sy'n amlinellu cynlluniau Age Connects Morgannwg i wella'r adeilad a chynnig gwasanaeth gwell i bobl dros 50 oed a'r cymunedau ehangach yng Nghwm Cynon.

"Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn y Santes Fair yn werthfawr iawn i'w defnyddwyr. Bydd y cyfle yma â Age Connects Morgannwg yn caniatáu i'r gwasanaethau hynny ehangu ymhellach a bydd cyfle i ragor o bobl yn y cymunedau lleol eu defnyddio nhw."

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Llesiant: “Cytunodd y Cabinet y bydd Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn cael ei throsglwyddo drwy'r broses trosglwyddo asedau cyfalaf. Bydd hyn yn llwyddiant arall i gynllun #RhCTGydangilydd. Mae'r Cyngor yn rhoi'r cynllun yma ar waith drwy weithio gyda chymunedau a'r sector gwirfoddol er mwyn ystyried dulliau gwahanol o gynnig gwasanaethau, a hynny gan ddiogelu'r dyfodol.

 Meddai Rachel Rowlands, Prif Swyddog Gweithredol Age Connects Morgannwg: "Mae Age Connects Morgannwg yn falch o dderbyn cadarnhad pellach gan Aelodau o'r Cabinet o'i gynigion, trwy hwb Cynon Linc, i drawsffurfio Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn adnodd modern, hygyrch a chynaliadwy.

"Mae defnyddwyr y ganolfan oriau dydd, aelodau o'r cyhoedd a phartneriaid o'r trydydd sector yn gefnogol iawn o'r cynigion. Mae gan bob un ohonyn nhw rôl hanfodol i'w chwarae yn llwyddiant y cynllun.

"Mae'r Cabinet wedi cytuno i'r brydles 99 mlynedd, felly, bydd gan yr elusen yr hyder i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ar y cyd â'r gymuned. Bydd y cynllun yn cynnig gwasanaethau gwell ac yn cael effaith gadarnhaol ar genedlaethau'r dyfodol yn nhref Aberdâr a'i chyffiniau."

Mae Age Connects Morgannwg yn cynnig datblygu hwb cymunedol sy'n pontio'r cenedlaethau o'r enw Cynon Linc. Byddai'r gwasanaeth yn cynnig gweithgareddau i bobl hŷn yn ystod y dydd, gan gynnwys gweithgareddau celf a chrefft, a dosbarthiadau addysg, garddio, cyngherddau a ffilmiau. Byddai yno gaffi sy'n dementia-gyfeillgar yn ogystal ag ystafell synhwyraidd. Byddai hefyd wasanaeth torri ewinedd ac ystafell therapi ar gael i'w hurio.

Byddai Cynon Linc yn cynnwys bistro menter gymdeithasol a fyddai'n cynnig prydau a byrbrydau iachus ar gyfer y gymuned gyfan. Byddai'r Hwb yn cynnwys ystafell gymunedol y mae modd i grwpiau lleol ei hurio, yn ogystal â neuadd ar gyfer achlysuron.

Byddai modd i glwb garddio sy'n pontio'r cenedlaethau ddefnyddio gardd gymunedol yn yr iard ble byddai modd tyfu cynnyrch ar gyfer y bistro.

Byddai'r adeilad yn brif swyddfa i'r elusen, a byddai felly modd i bobl fanteisio'n hawdd ar ei gwasanaethau. Byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth estyn allan yn y gymuned, cynllun cyfeillio, a Charfan Gwybodaeth a Chyngor a fyddai'n darparu cyngor arbenigol i bobl hŷn.

Byddai cyfleusterau gofal plant ar gael i fabanod a phlant 2-3 oed. Mae cynlluniau i adleoli Meddygfa Maendy yn symud yn eu blaenau.

Wedi ei bostio ar 22/09/2017