Skip to main content

Adroddiad Cynnydd - Y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Aberpennar

Bydd Aelodau Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd cynllun Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar yn y Cyfarfod nesaf o'r Cabinet.

O ganlyniad i'r prif gynllun blaenllaw yma, erbyn 2020 fe fydd pont 60 metr wedi cael ei hadeiladu ar draws llinell reilffordd Aberdár-Caerdydd ac Afon Cynon, o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Ffordd Meisgyn. Bydd hyn yn darparu cysylltiad allweddol i draffig ar ffordd yr A4059 a ffordd y B4275, yn lleddfu tagfeydd yn Aberpennar ac yng nghoridor ehangach ffordd yr A4059 a ffordd y B4275.

Mae'r prosiect yn cynnwys gwelliannau mawr a phwysig i gyffordd Ffordd Caerdydd ac i gyffordd ffordd yr A4059 a Chwm Cynon. Bydd cyffordd newydd ar y bont yn cysylltu á ffordd y B4275 Ffordd Meisgyn, a chaiff gwelliannau allweddol ar Ffordd Meisgyn eu cyflawni hefyd.

"Mae sawl elfen o gynllun Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar yn gwneud cynnydd rhagorol yn gyffredinol," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd "Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar y safle, sicrhau caniatâd cynllunio, a chaffael tir.

"Bydd Aelodau'r Cabinet yn derbyn yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd diweddaraf pob elfen o'r prosiect yn y Cyfarfod nesaf o'r Cabinet.

"Ar gyffordd Ffordd Caerdydd y mae'r gwaith mawr pwysig ar hyn o bryd, gyda gwaith er mwyn gwella'r ffordd yn tynnu tua therfyn. Bydd sylw yn troi wedyn at gyffordd yr A4059 drwodd hyd at Wanwyn 2018. Bydd y ddwy gyffordd yn elfennau hanfodol yn y prosiect gorffenedig. Dyna pam mae angen gwaith gwella mawr pwysig arnynt.

Mae'r prif gynllun blaenllaw yma yn ddyhead ers talwm, er mwyn gwella llif y traffig yn Aberpennar a'r cylch ac ar goridor ehangach ffordd yr A4059. Dengys y cynnydd eang sy'n cael ei wneud mewn sawl man fod y Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn gwireddu'r cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach yn cael ei wneud yn yr wythnosau a ddaw.”

Bydd Aelodau'r Cabinet yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd yn eu cyfarfod ar 19eg - am elfennau megis cynllunio, caffael tir, adeiladu, a chyllido. Dyma'r sefyllfa ddiweddaraf i feysydd allweddol y prosiect:

Cynllunio

Cymeradwywyd cais cynllunio am y ffordd gyswllt a'r bont gysylltiedig ar 16eg Mawrth, 2017. Dyma dirnod mawr o bwys mawr i'r cynllun cyfan. Cymeradwywyd cais am adleoli pedwar garej sengl er mwyn darparu ar gyfer y prosiect hefyd, drwy benderfyniad gan swyddog dirprwyedig.

Cyflwynir cais i newid defnydd tir sy'n eiddo i'r Cyngor, a gaiff ei ddefnyddio  er mwyn lliniaru colled man garddio i Rif 1, Teras Meisgyn.

Tir

Mae'r Cyngor yn berchen ar bum llain o dir sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu'r prosiect, ac mae chwech o leiniau pellach ym mherchnogaeth perchnogion trydydd parti. Bydd y Cyngor yn parhau á chamau er mwyn caffael y tir. Mae pump o leiniau mewn perchnogaeth anhysbys.

Mae Rhif 1 a Rhif 2 Bythynnod Meisgyn bellach wedi'u caffael gan y Cyngor, a chânt eu dymchwel yn nhymor hydref 2017.

Adeiladu

Mae'r Cyngor wedi gosod y tendr am waith dylunio ac adeiladu strwythur y bont i gwmni Walters-Sisk, am £7.92miliwn.

Dechreuodd gwaith gwella yn Ffordd Caerdydd yn ystod mis Gorffennaf, er mwyn ailwynebu'r gyffordd a gweithredu cynllun lonydd cerbyd ffisegol newydd a gwella goleuadau’r strydoedd. Bwriedir i'r gwaith gael ei gwblhau yn gynnar yn yr hydref yn 2017.

Mae gwaith cyffordd yr A4059 yn destun broses dendro ar hyn o bryd. Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod hydref 2017, a chaiff ei gwblhau yng ngwanwyn 2018.

Bydd y Cyngor yn gwahodd tendrau ar gyfer adeiladu pedwar garej newydd, a dymchwel pedwar garej presennol yn Nheras Meisgyn. Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2017, a chael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2017/18.

Cyllido

Hyd yn hyn, cafodd £7.551miliwn ei ddyrannu i'r cynllun yn gyffredinol, yn dilyn buddsoddi sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru - a gyfrannodd £3.601. Cyhoeddwyd y cyllido £1.5miliwn diweddaraf ym mis Mawrth 2017, fel rhan o'i gynllun grant Cronfa Trafnidiaeth Leol.

Drwy gysylltu yn barhaus â Llywodraeth Cymru, bydd modd i ni ofalu fod unrhyw gyfleoedd ariannu pellach yn 2017/18 yn cael eu hystyried. Cyflwynir ceisiadau pellach am grantiau trafnidiaeth briodol i Llywodraeth Cymru yn ystod 2018/19.
Wedi ei bostio ar 13/09/2017