Skip to main content

Canmoliaeth fawr i'r Cyngor yn y Gwobrau Rheoli

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael canmoliaeth fawr yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021, a gynhaliwyd yn ystod Cynhadledd Rithwir Cymdeithas Rheolwyr Pobl y Gwasanaethau Cyhoeddus yr wythnos yma.

Enillodd y Cyngor y wobr yng nghategori'r Rhaglen Dalent Orau, a noddir gan Tribepad. Dywedodd trefnwyr y gwobrau fod y categori yma'n cydnabod cyflogwyr sy'n ceisio mynd i'r afael â her prinder sgiliau yn y sector cyhoeddus ledled y DU trwy roi strategaethau rheoli talent moesegol ar waith sy'n addas i'r dyfodol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael ag anghenion eu sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn cael cydnabyddiaeth am ei holl waith rhagorol yn y sector cyhoeddus a hoffwn longyfarch ein holl staff syn arwain y ffordd i sefydliadau eraill ledled y wlad.

“Mae Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021, yn dilyn ymlaen o lwyddiant a chydnabyddiaeth flaenorol i’r Cyngor eisoes eleni yng Ngwobrau 'Personnel Today' a Gwobrau Prentisiaeth Cymru.

“Mae recriwtio prentisiaid yn un o ymrwymiadau hirsefydlog y Cyngor i’r gymuned leol, gan ragori ar ein hymrwymiad ddwy flynedd yn ôl i ddarparu 150 o swyddi i brentisiaid a graddedigion erbyn diwedd tymor y Cyngor.

“Os ydych chi am feithrin y sgiliau sydd eu hangen i foderneiddio a darparu gwasanaethau i drigolion yn y dyfodol, rhaid rhoi cyfleoedd i brentisiaid – dyma rywbeth roedd Cyngor RhCT yn effro iddo yn gynnar.”

Ers dros 40 mlynedd, mae Cymdeithas Rheoli Pobl y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn llais cyfunol dros adrannau Adnoddau Dynol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus cymwys, angerddol, ymroddedig ac amrywiol. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar bobl sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â rheoli pobl ac sy'n delio â materion y gweithlu.
Wedi ei bostio ar 28/09/21