Skip to main content

Diwygio Delweddau. Stori Mudwyr o'r Eidal i Gymoedd De Cymru

Altered imagesre-sized2

Roedd trefi Rhondda Cynon Taf yn llawn caffis, neu 'Bracchi' yn ôl yr enw traddodiadol, ar un adeg, ac roedd cyfenwau Eidalaidd megis Ferrari, Sidoli a Servini yn gyffredin.  

Dydy nifer o'r caffis yma ddim yn bodoli bellach, ond mae ambell un yn parhau i fod ar agor heddiw, gan gynnwys Servini's yn Aberdâr. 

Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, gweithiodd prosiect Diwygio Delweddau gyda chriw ffilmio talentog, '4KMFS', yn ddiweddar er mwyn cynhyrchu ffilm i ddathlu hanes mudwyr o'r Eidal i ardal Rhondda Cynon Taf.

Derbyniodd y prosiect gyllid gwerth £250,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r ffilm yn cyfleu profiadau ysbrydoledig, craff ac ar adegau drychinebus y gymuned Eidalaidd dros fwy na chanrif yn ôl. Robert Servini sy'n adrodd yr hanes.

Mae Mr Servini, mewn ffordd sy'n cipio chwilfrydedd y gwyliwr, yn adrodd yr hanes o sut daeth ei deulu o'r Eidal i gymoedd De Cymru. Mae'n sôn am yr heriau a'r llwyddiannau roedd y teulu wedi'u hwynebu a'u dathlu ar hyd y ffordd er mwyn creu bywyd newydd yng nghanol y chwyldro diwydiannol ffyniannus.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Treftadaeth:

Mae deall hanes y gorffennol yn bwysig ar gyfer ein dyfodol. Mae stori Mr Servini yn bwerus iawn ac yn dangos yn glir sut mae modd i ddiwylliannau eraill gyfoethogi'n cymunedau. 

Cafodd mudwyr o'r Eidal i gymoedd De Cymru dros ganrif yn ôl effaith wych a pharhaol ar ein trefi a'n pentrefi wrth iddyn nhw agor caffis Eidalaidd a siopau hufen iâ. Mae Caffè Bracchi ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn deyrnged i'r dylanwad Eidalaidd cryf sy'n parhau yng Nghwm Rhondda, a hynny dros ganrif ar ôl i'r mudwyr cyntaf ymgartrefu yn y cymoedd o ranbarth Bardi.

Prif nod prosiect Diwygio Delweddau ydy helpu i gofnodi ac ymchwilio i gofebion a henebion ledled Rhondda Cynon Taf, ynghyd ag adrodd straeon ac atgofion amrywiol ein cymdogaethau. Mae hanes y teulu Servini wedi'i gofnodi, a hynny ar gyfer y genhedlaeth yma a chenedlaethau'r dyfodol, a hoffwn i ddiolch i Mr Servini am gymryd rhan yn y prosiect pwysig yma.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r teuluoedd a ymgartrefodd yn Rhondda Cynon Taf trwy fwrw golwg ar y casgliadau hanes lleol yn llyfrgelloedd Aberdâr, Treorci a Phontypridd.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am hanes lleol neu hanes eich teulu, mae'r gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Rhondda Cynon Taf, yn cynnal cyrsiau Hanes Lleol a Hanes Teulu. I gadw eich lle, ewch i www.rctcbc.gov.uk/dysguoedolionynygymuned

Gwyliwch y ffilm yma 

Nodiadau i'r Golygydd

Gwybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, rydyn ni'n ysbrydoli ac yn cefnogi treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac ar gyfer y dyfodol.

https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/10783 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd i achosion da ledled y DU bob wythnos.

Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaDreftadaethYLoteriGenedlaethol 

 

 

Wedi ei bostio ar 31/08/2023