Skip to main content

Wythnos yr Hinsawdd 2023 – Byddwch yn Seren yr Hinsawdd y Nadolig yma

Think Climate Logo 1

Mae trigolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi dangos pa mor ddisglair ydyn nhw a faint maen nhw'n pryderu am yr amgylchedd.

Mae’r wythnos yma'n nodi dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (4-8 Rhagfyr), dechrau’r cyfnod cyn y Nadolig, a lansiad ymgyrch Ailgylchu Nadolig newydd Cyngor Rhondda Cynon Taf – ‘Byddwch yn Seren Ailgylchu'r Nadolig yma’.

Ein trigolion yw’r un peth sy’n allweddol i’r holl bethau yma ac sydd wrth galon popeth!

P’un a yw’n seren Bethlehem, yn seren enwog, neu’n seren yr wythnos yn yr ysgol – rydyn ni'n anelu am y sêr ac yn eu dilyn trwy gydol ein bywydau, gan obeithio dod yn seren yn ein bywydau ein hunain. Un o'r problemau MWYAF rydyn ni i gyd yn ei hwynebu yw’r Newid yn yr Hinsawdd ac mae modd i ni i gyd chwarae rhan flaenllaw wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau trwy wneud dewisiadau syml bob dydd.  

Ym mis Gorffennaf 2023 newidiodd y Cyngor pa mor aml y mae'n casglu gwastraff bagiau du a biniau ar olwynion i 3 wythnos, a hynny mewn ymgais i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff bagiau du a lleihau ei ôl troed carbon cyffredinol – er mwyn helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd!

Mae ailgylchu’n chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Yn union fel y mae’r corachod yn dangos i ni'r adeg yma'r flwyddyn, yn aml y pethau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth GWYCH yn ein cartrefi hefyd (er da neu er drwg)! 

Diolch i gefnogaeth ein ‘Sêr Ailgylchu', mae modd i'r Cyngor adrodd bod arwyddion cynnar yn dangos ein bod ni'n anelu am y sêr, yn cyrraedd y targed ac yn gwella ein harferion o ran ailgylchu!

Diolch i'r Sêr Ailgylchu, mae cyfraddau gwastraff bagiau du/biniau ar olwynion wedi’i leihau 1,500 tunnell.

Hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw’r ffaith bod cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 150 tunnell – sy’n golygu bod mwy o bobl yn rhoi eu gwastraff bwyd nad oes modd ei fwyta yn eu cadi gwastraff bwyd yn hytrach nag yn y bagiau du – ARDDERCHOG!

Mae gwastraff bwyd yn cyfrif am dros 20% o'r hyn a gaiff ei gasglu bob mis yn Rhondda Cynon Taf. Y newyddion da yw, o'r holl ailgylchu gwastraff bwyd, mae modd cynhyrchu digon o ynni i bweru tua 1180 o gartrefi! Golau disglair go iawn ledled ein Bwrdeistref Sirol!

Mae rhagor o newyddion da! Mae Sêr Ailgylchu Rhondda Cynon Taf hefyd wedi helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff sych o 3.5% - yn seiliedig ar yr un cyfnod â'r llynedd (Chwarter 2).

Mis Tachwedd diwethaf, rhagwelwyd y byddai'r newidiadau yn cynyddu cyfraddau ailgylchu tua 1.9% a byddai Rhondda Cynon Taf yn taro 69%! A ninnau dim ond 6 mis i mewn i'r cynllun newydd, mae’r data dros dro ar hyn o bryd yn awgrymu mai’r gyfradd gyffredinol yw 68% hyd yn hyn – felly rydyn ni ar y trywydd iawn!

Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur iawn, ac fel arfer, mae'r wŷl yn cynnwys llawer mwy o fwyd ac anrhegion. Amcangyfrifir bod gwastraff cartref yn cynyddu dros 30% yn ystod y cyfnod yma – sy'n golygu llawer o ailgylchu ychwanegol! 

Mae’r Cyngor yn gofyn i’w drigolion roi’r holl ymdrechion anhygoel y maen nhw wedi’u dangos hyd yma i ddod yn Sêr Hinsawdd y Nadolig hwn, i fwrw ein targedau ailgylchu yn y Flwyddyn Newydd, a chymryd rhai camau syml i helpu i frwydro yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd!

Drwy gydol yr wythnos nesaf, bydd y Cyngor yn rhannu awgrymiadau a chyngor ar sut y mae modd i chi fod yn Seren Hinsawdd ddisglair y Nadolig yma – o droi’r gwres i lawr 1 gradd a gwisgo’r siwmper Nadolig drwchus, cawodydd 4 munud o hyd, i gerdded i’r parti Nadolig!

Dyma rai pethau i chi eu hystyried y Nadolig yma...

Rhoi eitemau nad ydych chi'n eu defnyddio mwyach:
Eisiau taflu hen lyfrau, teganau, dillad, llestri, addurniadau, DVDs, ac ati, cyn i Siôn Corn ymweld â'ch cartref eleni?

Gweithredwch er lles yr hinsawdd y Nadolig yma a dewch draw i'r Sied yn Llantrisant, Treherbert neu Aberdâr lle gallai eich eitemau nad ydych chi eu heisiau ragor ddod yn drysor i rywun arall.

Cymryd rhan yn y Gymuned:
Ydych chi erioed wedi meddwl am wirfoddoli, cyfrannu neu fwrw golwg ar grŵp cymunedol lleol yma yn Rhondda Cynon Taf? Cymerwch ran drwy glicio ar y Map Gweithredu Cymunedol Newid yn yr Hinsawdd.

Effeithlonrwydd Ynni:
Trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd rydych chi'n defnyddio ynni a dŵr gartref, gall wneud gwahaniaeth mawr i gost eich biliau a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd. P'un a yw'n pweru offer sy'n cael eu gadael ar y modd segur, newid i fylbiau LED, lleihau amser yn y gawod neu hyd yn oed golchi'ch dillad ar dymheredd is.

I gael rhagor o awgrymiadau sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd ar sut i weithredu er lles yr hinsawdd gartref, ewch i Newid yn yr Hinsawdd RhCT - Arbed Ynni a Gwelliannau yn y Cartref

Ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig am fanylion llawn.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Rwy’n falch iawn o weld y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol tuag at gyrraedd ei dargedau ailgylchu, ailddefnyddio a gwastraff. Fydd hi ddim yn bosibl bwrw'r targedau yma heb waith caled ac ymrwymiad ein trigolion, y mae eu hymdrechion wedi bod yn amlwg, yn enwedig ers y newidiadau i gasgliadau bagiau du a biniau ar olwynion ym mis Gorffennaf 2023.

Yr Wythnos Hinsawdd yma, mae’n bwysig tynnu sylw at yr holl feysydd gwahanol lle mae modd i ni chwarae ein rhan. Drwy edrych ar beth a ble rydyn ni'n gwario, sut rydyn ni'n teithio, yr ynni a ddefnyddiwn a'r ffordd rydyn ni'n cael gwared ar ein sbwriel, gall y cyfan helpu i wneud Rhondda Cynon Taf yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy.”

Am ragor o wybodaeth ar sut y mae modd i chi helpu i ymuno â'r frwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd bob dydd (nid dim ond ar gyfer y Nadolig) ewch i Newid yn yr Hinsawdd RhCT

Wedi ei bostio ar 04/12/2023