Bob tro rydyn ni’n defnyddio dŵr poeth, yn switsio plwg ymlaen neu'n cynnau'r golau, mae’r ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio'n dod yn uniongyrchol o’r Grid Cenedlaethol. Er bod y DU yn cynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau glân ac adnewyddadwy bob blwyddyn, mae llawer o’r ynni yma'n cael ei greu mewn ffyrdd sy’n achosi newid uniongyrchol i'r hinsawdd.
Gall newidiadau bach i’r ffordd rydych chi’n defnyddio ynni a dŵr wneud gwahaniaeth mawr i gost eich biliau a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd.
Cofio ei Ddiffodd
Mae'r cartref cyffredin yn gadael offer trydanol ar bŵer wrth-gefn pan dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn costio mwy na £65 bob blwyddyn. Dydy hynny ddim yn cynnwys yr arian sy'n cael ei wario ar gynhesu dŵr ac ystafelloedd yn ddiangen!
Os ydych chi'n anghofus, ystyriwch fuddsoddi mewn socedi, amseryddion neu synwyryddion i'w gwneud hi'n haws fyth i ddiffodd (ac i gynnau) pethau. Mae hefyd modd i chi gadw llygaid ar faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio trwy osod mesurydd clyfar.
Gwneud Eich Ynni Eich Hun
Ydych chi erioed wedi ystyried gwneud eich trydan eich hun?
Mae gosod technoleg adnewyddadwy yn fuddsoddiad, ond mae modd iddi arbed arian sylweddol i chi yn y tymor hir.
Boed yn wynt, solar, neu ddŵr, mae modd i chi arbed ar filiau trydan drwy wneud eich trydan glân, gwyrdd eich hun, ac ar yr un pryd torri eich ôl troed carbon. Gwiriwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer ein Grant Panel Solar diweddaraf a dechreuwch wneud eich trydan eich hun!
Mae Pob Diferyn yn Cyfri
Gwresogi dŵr yw un o'r gweithgareddau sy'n defnyddio'r mwyaf o ynni yn ein cartrefi.
Mae modd arbed dŵr poeth trwy ddewis cawodydd byrrach (anelwch am 4 munud!) yn hytrach na chael bath sy'n defnyddio mwy o ddŵrr. Mae rhoi caead ar sosban wrth goginio, defnyddio powlen golchi llestri wrth wneud llestri â llaw a pheidio â llenwi'r tegell i'r brig os ydych chi dim ond yn gwneud te ar gyfer un, hefyd yn arbed dŵr.
Uwchraddio Eich Systemau Gwresogi
Mae penderfynu sut rydyn ni'n gwresogi'n cartrefi, yn un o'r penderfyniadau amgylcheddol pwysicaf gallwn ni ei wneud. Mae llawer o gartrefi’n cael eu gwresogi gan ddefnyddio nwy neu olew ond mae llosgi’r naill danwydd neu’r llall yn gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd a gall fod yn ddrud oherwydd cyflenwad a galw byd-eang.
Mae systemau gwresogi sy'n seiliedig ar drydan (gan gynnwys pympiau gwres a rheiddiaduron modern) yn wyrddach ac mae modd iddyn nhw fod yn rhatach hefyd. Edrychwch ar ein tudalen Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni i weld a oes gyda chi hawl i unrhyw grantiau, benthyciadau neu gyllid.
Golchi a Sychu Dillad
Mae golchi dillad yn cymryd llawer o egni, dŵr ac amser, felly gwyntyllwch eich dillad yn hytrach na'u golchi. Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad dim ond pan fydd llwyth llawn gyda chi. Golchwch y dillad ar 30°C (oni bai bod y llwyth yn arbennig o fudr) a defnyddiwch eco-osodiad eich peiriant, os oes ganddo un.
Mae peiriannau sychu dillad ymhlith yr offer drutaf i'w redeg yn y cartref ac mae'n bosibl y byddan nhw'n achosi i'ch dillad beidio â phara mor hir.
Pwysigrwydd LED a Sgôr Ynni
Os ydych chi'n berchennog tŷ - neu os yw'ch landlord yn caniatáu hynny - newidiwch fylbiau eich goleuadau i fylbiau ynni isel. Mae goleuadau LED yn defnyddio 85% yn llai o ynni na bylbiau traddodiadol ac yn para llawer hirach. A oes angen peiriant newydd arnoch chi? Edrychwch allan am ei sgôr ynni. Bydd sgôr A+++ yn golygu costau rhedeg is, gan arbed arian i chi yn y tymor hir - hyd yn oed os gallai gostio ychydig yn fwy i'w brynu.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael gwared ar eich hen beiriant yn y ffordd orau hefyd. Rhowch fywyd newydd iddo trwy ei werthu, neu ei roi i elusen, neu beth am ei ailgylchu.
Cadw Gwres i Mewn
Cartrefi Prydain yw rhai o'r tai hynaf a gwaethaf am gadw gwres i mewn yn Ewrop, ac mae'r sawl sy'n talu'r biliau'n talu'r pris am yr holl wres sy'n cael ei wastraffu.
Os ydych chi'n byw mewn cartref oer, hen neu ddrafftiog yna mae modd i chi arbed arian ar eich biliau ynni trwy osod mesurau effeithlonrwydd ynni sy'n helpu i gadw'ch cartref yn gynhesach yn y gaeaf ac yn oerach yn yr haf.
Wrth inswleiddio eich cartref, atal drafftiau neu hyd yn oed inswleiddio eich tanc dŵr poeth a'ch pibellau, mae modd gwneud gwahaniaeth.