Skip to main content

Laura yn arwain ymgyrch dros Roddwyr Newydd

Laura Ringing the bell at Velindre Cancer Centre 1

Laura James

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ei ymgyrch i annog rhoddwyr sydd wedi cofrestru i roi, yn ogystal ag annog rhoddwyr newydd i gofrestru heddiw. 

Hoffai un goroeswr canser o Rondda Cynon Taf, a lwyddodd i oresgyn y tebygolrwydd 'un mewn 16 miliwn', weld rhagor o bobl ifainc rhwng 17 a 30 oed yn ymuno yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed drwy ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. 

Fe wnaeth Laura James, sy'n 35 oed o Aberdâr, orchfygu ei brwydr â lewcemia myeloid acíwt ym mis Rhagfyr 2012 diolch i rodd mêr esgyrn gan ddieithryn.

Ddegawd ers iddi wella, fe ddathlodd hi 10 mlynedd o fod 'yn glir' yn ddiweddar trwy ganu'r gloch yng Nghanolfan Ganser Felindre, lle dechreuodd ei thriniaeth yn wreiddiol.

Ar ôl pedwar rownd o driniaeth cemotherapi, cafodd Laura ail bwl o salwch a chafodd hi wybod mai ei hunig gyfle i oroesi oedd cael trawsblaniad mêr esgyrn. Yn anffodus, doedd neb yn ei theulu hi yn cydweddu â hi ac felly unig obaith Laura oedd derbyn cymorth gan ddieithryn. 

Cafodd chwiliad byd-eang ei lansio ar frys i ddod o hyd i roddwr addas, a phedwar mis a hanner yn ddiweddarach, daethon nhw o hyd i gyfatebiaeth berffaith 10,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Awstralia.   

Meddai Laura James o Aberdâr, "Rydw i'n gwybod pa mor lwcus ydw i i ddod o hyd i gyfatebiaeth berffaith. Dywedodd y doctoriaid ar y pryd mai un mewn 16 miliwn oedd y tebygolrwydd o ddod o hyd i gyfatebiaeth. Fe wnes i brofi cymaint o emosiynau o wybod bod dieithryn anhunanol yn fodlon achub fy mywyd i – hapusrwydd, gobaith, pryder, dim ond i enwi ychydig. Dyma pam rydw i'n awyddus i rannu fy stori i. Er ei fod yn beth anodd, rydw i eisiau helpu cymaint o bobl â phosibl. 

“Daeth fy mywyd i gynnwys trallwysiadau gwaed a phlatennau, gwelyau ysbyty, bwyd ysbyty, dosau uchel o gemotherapi, ac ynysu cyson. Dim dyma'r bywyd roeddwn i'n ei ddisgwyl, ond roeddwn i'n benderfynol o fod yn gryf a bod ag agwedd gadarnhaol hyd nes i mi ddod o hyd i fy rhoddwr." 

Mae canser y gwaed yn atal mêr esgyrn rhag gweithio'n gywir, ac ar gyfer y cleifion yma, y gobaith gorau o wella yw derbyn cynhyrchion gwaed, ac yn y pen draw, trawsblaniad mêr esgyrn. Mae clinigwyr o amgylch y byd yn chwilio cofrestrau bob dydd i ddod o hyd i roddwyr mêr esgyrn addas ar gyfer eu cleifion sydd â chanser y gwaed sydd mewn angen dirfawr. 

Hyd yn oed ar ôl gwella, mae taith Laura yn parhau. Mae hi wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i ymgymryd â rôl lle mae ei phrofiad uniongyrchol o dderbyn gwaed, platennau a mêr esgyrn bellach yn ei helpu hi i alw ar ragor o bobl i ystyried rhoi. 

Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru: “I glaf fel Laura, mae dod o hyd i roddwr cyfatebol ar y Gofrestrfa yn amhrisiadwy, ond dyw pawb ddim mor ffodus â Laura. Rydyn ni angen rhagor o wirfoddolwyr rhwng 17 a 30 oed i gofrestru i fod ar y Gofrestrfa. 

"Mae cofrestru'n hawdd iawn. Mae modd i chi ofyn am becyn swab heb hyd yn oed gadael eich cartref drwy fynd i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, neu, mae modd i chi drefnu apwyntiad i roi gwaed a gofyn am ymuno pan fyddwch chi'n rhoi.” 

Derbyniodd Laura ei thrawsblaniad mêr esgyrn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gan Dr Keith Wilson, Meddyg Ymgynghorol Haematoleg a Chyfarwyddwr y Rhaglen Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn De Cymru. 

Meddai Dr Keith Wilson: "Ar gyfer llawer o gleifion sydd â chanser y gwaed, trawsblaniad mêr esgyrn yw'r unig ffordd o oresgyn y clefyd. Dim ond un mewn pedwar o gleifion fydd yn dod o hyd i roddwr cyfatebol addas gan aelod o'u teulu, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o gleifion, gan gynnwys Laura, yn dibynnu ar roddion gan wirfoddolwyr ar gofrestrau o amgylch y byd. 

"A minnau'n ymgynghorydd trawsblaniad, mae'n galonogol iawn rhoi gwybod i gleifion pan rydyn ni'n dod o hyd i roddwr. Mae Laura yn enghraifft o beth sy'n gallu cael ei gyflawni trwy roddion anhunanol gan bobl eraill." 

Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rydyn ni'n falch iawn o glywed am daith Laura a sut gwnaeth y Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn achub ei bywyd. 

"Byddwn i'n annog unrhyw berson sydd rhwng 17 a 30 oed sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf i ystyried cofrestru heddiw. Gallai eich dewis a'ch rhodd chi gael effaith enfawr ar fywyd rhywun arall." 

Mae ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn weithred a allai achub bywydau. Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, cofrestrwch heddiw. Ewch i Wasanaeth Gwaed Cymru, a dechrau ar eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Wedi ei bostio ar 14/02/2023