Skip to main content

Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan bellach ar gael mewn tri o feysydd parcio eraill y Cyngor

Abercynon EV

Mae bellach modd defnyddio mannau gwefru cerbydau trydan ar safle Parcio a Theithio Abercynon (llun), Canolfan Cymuned Glyn-coch a safle Parcio a Theithio'r Porth (Cam 2).

Mae’r contractwr rhanbarthol Connected Kerb yn gosod offer gwefru cerbydau trydan mewn 31 o feysydd parcio – gyda 5 o’r rhain eisoes wedi’u cwblhau.

Mae’r gwaith ar y 31 safle’n cael ei ddarparu drwy gyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i ragor o fannau gwefru gael eu gosod.

Mynnwch olwg ar y wefan sy'n cael ei diweddaru'n gyson i weld sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo. 

Mae Connected Kerb hefyd wedi llunio Cwestiynau Cyffredin manwl o ran defnyddio'r offer. Cliciwch yma. 

Wedi ei bostio ar 07/03/2023