Skip to main content

Coroniad Ailgylchu Brenhinol!

Rhowch driniaeth frenhinol i'ch gwastraff dros Ŵyl Banc y Coroni ac ailgylchwch fel y brenhinoedd a'r breninesau yr ydych chi yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Brenin Charles III yn frwd dros amddiffyn yr amgylchedd, yn enwedig gweithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Trwy ddewis rhoi’r driniaeth frenhinol i’ch ailgylchu a meddwl yn wyrddach yn ystod dathliadau’r Coroni, mae modd i chi gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a mwynhau dathliad y Brenin.

Yn ogystal ag ailgylchu unrhyw ddeunydd pacio ychwanegol a gwastraff bwyd o'ch dathliadau, meddyliwch am sut mae modd i chi wneud eich partïon yn fwy cynaliadwy.

  • Defnyddiwch addurniadau cynaliadwy: gwnewch nhw eich hun neu dewiswch rai y mae modd eu hailddefnyddio neu sy'n fioddiraddadwy. Er enghraifft, fe allech chi wneud baneri allan o hen bapur a chynnwys planhigion mewn potiau neu flodau yn eich addurniadau, y mae modd eu plannu wedyn.
  • Dewiswch drafnidiaeth gynaliadwy: Gofynnwch i westeion ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, rhedeg, beicio neu rannu car i'r parti.
  • Gweiniwch fwyd a diodydd lleol cynaliadwy: Chwiliwch am gynhwysion lleol a thymhorol ar gyfer bwydlen y Coroni.
  • Lleihau gwastraff: Darparwch finiau ailgylchu a gwastraff bwyd trwy gydol yr achlysur ac anogwch westeion i ddod â'u poteli dŵr, cyllyll a ffyrc y gellir eu hailddefnyddio a'u llestri Tupperware eu hunain.
  • Mae llai yn fwy: Meddyliwch am faint o fwyd rydych chi'n ei brynu a'i gynnig ac a fydd ei angen i gyd. Ystyriwch gynnig bwyd dros ben i’r gymuned ehangach, ffrindiau/teulu neu meddyliwch sut mae modd eu gwneud yn brydau drannoeth – does dim yn well na stwnsh tatws a bresych! Dylai unrhyw beth sydd ar ôl gael ei ailgylchu yn eich cadi gwastraff bwyd. Cofrestrwch AM DDIM yn www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Mae pecyn cymorth defnyddiol, gyda gweithgareddau hwyliog a syniadau am ryseitiau ar gael yma - https://coronation.gov.uk/toolkit/.

Amlygodd dadansoddiad diweddar o fagiau du ymyl y ffordd gan WRAP o Rondda Cynon Taf fod ein gwastraff bagiau du yn cynnwys 39% o eitemau gwastraff bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr Cymru, sydd yn 25%!

Drwy dynnu'r gwastraff bwyd yma allan o'r bagiau du a'i roi yn y bin gwastraff bwyd, mae modd i ni helpu i gwrdd targed ailgylchu'r Cyngor o 70% sydd wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Mae'r Cyngor yn parhau i wella ei wasanaethau ailgylchu a gwastraff yn rhan o'i frwydr barhaus yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Mae cyflwyno sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd wedi helpu'r Cyngor i leihau ei ddefnydd o blastig o thua tair miliwn o fagiau clir bob blwyddyn. Mae'r newidiadau yma i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd, y cyfnod prawf ar gyfer sachau ailgylchu sych mae modd eu hail-ddefnyddio a'r newidiadau i gasgliadau bagiau du a biniau i unwaith bob tair wythnos sydd ar ddod i gyd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Maen nhw hefyd yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

Fydd DIM NEWIDIADAU i gasgliadau ar Ddydd Llun 8Mai, felly mae'r Cyngor yn gofyn i'n trigolion gasglu eu bagiau ailgylchu CLIR brenhinol a'u bagiau ailgylchu bwyd ac ailgylchu eu holl wastraff ychwanegol yn ystod eu partïon stryd a'u dathliadau gwych.

Mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion i sicrhau y dylid gosod YR HOLL fagiau gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu arferol.

Os dydy'r criwiau ddim wedi casglu eich sbwriel /deunyddiau i'w hailgylchu pan ddylen nhw, cadewch nhw ar ymyl y palmant. Mae'n bosibl y byddan nhw'n gweithio oriau ychwanegol a byddan nhw'n eich cyrraedd cyn gynted â phosibl. Weithiau bydd ein criwiau'n gweithio'n hwyr yn ystod cyfnodau prysur ac weithiau caiff staff ychwanegol eu galw i mewn i gael gwared â'r eitemau y diwrnod canlynol.

Os ydych chi'n cynnal parti stryd, byddwch yn effro i'r tryciau ailgylchu brenhinol sydd angen mynediad i'r strydoedd. Parciwch eich ceir neu gerbydau brenhinol yn synhwyrol a gofalwch fod dim addurniadau ar draws strydoedd yn rhwystro mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys a bod modd eu symud ar unwaith.

Mae modd i drigolion fwynhau gŵyl y banc di-wastraff trwy ailgylchu eu holl wastraff bwyd anochel, poteli plastig ychwanegol, tybiau a hambyrddau, caniau metel, poteli gwydr, jariau, pecynnau cardbord a llawer mwy.

Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor o 8am tan 7.30pm bob dydd dros ŵyl y banc y Coroni.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Hoffwn ddymuno Gŵyl y Banc y Coroni diwastraff i'n holl drigolion ni a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer RhCT drwy gydol y flwyddyn.

“Mae cyfnod gŵyl y banc yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae’n amser gwych i feddwl yn wyrdd ac ailgylchu’r holl ddeunydd pacio ychwanegol, bwyd, plastig a chaniau ac ati.

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi pobl ac yn annog trigolion i barhau â'u gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn ei blith.

“Mae mwy a mwy o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff wythnosol o ochr y ffordd.

“Rwy’n annog ein holl drigolion sydd ddim yn ailgylchu ar hyn o bryd i ddod at ei gilydd i WELLA ein hymdrechion ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!

Hoffech chi ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff gŵyl y banc? Dilynwch ni ar Facebook neu Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 05/05/2023