Skip to main content

Dau gynllun Tai Hafod wedi'i cyflawni yn llwyddiannus

Clos Heddfan - representatives

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Cymdeithas Tai Hafod wedi gorffen gwaith ar ddau gynllun tai yn Rhydfelen a Ffynnon Taf.

Mae cynllun Clos Heddfan yn Rhydfelen wedi derbyn buddsoddiad gwerth £6.7 miliwn i adeiladu 35 cartref ar y safle. Gwnaeth Tai Hafod dderbyn cyfraniad gwerth £4 miliwn ar gyfer y cynllun drwy'r Grant Tai Cymdeithasol; Tai Hafod wnaeth ariannu'r gweddill ei hunan. Mae'r cynllun wedi'i leoli ar hen safle swyddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r hen swyddfa wedi'i dymchwel er mwyn gallu codi'r tai fforddiadwy yma yn yr ardal. Mae'r datblygiad yn cynnwys:

  • 9 tŷ 3 ystafell wely
  • 8 tŷ 2 ystafell wely
  • 6 fflat 2 ystafell wely
  • 10 fflat 1 ystafell wely
  • 2 fyngalo hygyrch 2 ystafell wely

Mae gerddi mawr a pharcio oddi ar y ffordd gyda nifer o'r cartrefi yma. Mae rhai o'r tai wedi'u gorffen â cherrig, gyda rhai eraill wedi'u gorffen a gwaith bric. ASD Ltd sydd wedi adeiladu'r tai.

Mae'r ail gynllun Tai Hafod, Llys Tŷ Garth, wedi'i leoli yn Ffynnon Taf. M J Cosgrove sydd wedi adeiladu'r 20 tŷ, gyda'r cynllun yn costio £3.4 miliwn. Gwnaeth Tai Hafod dderbyn cyfraniad gwerth £2.1 miliwn ar gyfer y cynllun drwy'r Grant Tai Cymdeithasol, gyda'r gweddill wedi'i ariannu'n breifat gan Hafod. Mae'r 20 cartref ar y safle'n cynnwys -

  • 3 thŷ 2 ystafell wely
  • 2 fyngalo 2 ystafell wely
  • 4 fflat 2 ystafell wely
  • 9 fflat 1 ystafell wely
  • 2 fflat hygyrch 1 ystafell wely

Cafodd y Cyng. Bob Harris a swyddogion y Cyngor wahoddiad gan Dai Hafod i ymweld â'r ddau gynllun er mwyn gweld llwyddiant y safleoedd, ac i gwrdd â'r trigolion sydd wedi symud i'w cartrefi newydd.

Meddai'r Cyng. Bob Harris – Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau

"Hoffwn ddiolch i Hafod am y gwahoddiad i ymweld â Chlos Heddfan a Llys Tŷ Garth. Cyfle arbennig oedd cael ein tywys o amgylch datblygiad Heddfan gan Hafod a chyfarwyddwyr ASD Ltd. Mae safon y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar y safle yn arbennig ac rwy'n sicr bydd y rhai sy'n symud i mewn i'r cartrefi yma yn hapus iawn. 

"Pleser oedd ymweld â Llys Tŷ Garth yn Ffynnon Taf hefyd, i siarad â'r trigolion sydd wedi symud i mewn i'w cartrefi newydd. Braf iawn oedd clywed eu bod nhw i gyd yn hapus, a'u bod nhw wedi llwyddo i feithrin teimlad o berthyn i gymuned."

Meddai Neil Taylor, Pennaeth Datblygiad i Hafod:

"Mae'n wych allu gweld bod y gwaith yn y datblygiad yma wedi dod i ben, gyda 35 o dai fforddiadwy newydd wedi'u codi ar gyfer y gymuned leol yn Rhydfelen. Mae'r eiddo wedi'u hadeiladu i safon ardderchog, ac rwy'n falch o'r hyn mae ein contractwyr ASD Ltd ynghŷd â Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i'w adeiladu."

"Mae gweld pobl yn ymgartrefu yn eu cartrefi newydd yn Llys Tŷ Garth yn wych. Mae gweld sut mae'r safle wedi trawsnewid o fod yn gartref i swyddfeydd y Cyngor, i fod yn ffordd bengaead o 20 cartref newydd yn cynnwys tai, fflatiau a dau fyngalo hygyrch yn brofiad boddhaol iawn. Mae lleoliad y cartrefi yn Ffynnon Taf yn gyfleus iawn, mae cysylltiadau da o ran trafnidiaeth ac mae'n agos i gyfleusterau lleol."

Mae pob cartref yn Llys Tŷ Garth wedi'u dyrannu ac mae'r trigolion i gyd yn hapus iawn gyda'u cartrefi newydd. Mae'r gwaith wedi dod i ben yn ddiweddar ar safle Clos Heddfan, ac mae disgwyl i'r trigolion symud i mewn cyn hir.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cartrefi sydd ar gael gan Gymdeithasau Tai yn Rhondda Cynon Taf, ewch i'n gwefan Ceisio Cartref neu cysylltwch â'r garfan drwy e-bostio CeisioCartref@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425678.

Wedi ei bostio ar 16/05/23