Skip to main content

Y Cyngor yn ymateb i ragolwg ariannol heriol

Ddydd Llun, 20 Tachwedd, bydd y Cabinet yn trafod opsiynau mewn ymateb i fwlch yn y gyllideb gwerth £35miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yr Aelodau hefyd yn trafod adroddiadau allweddol sy'n ymwneud â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol, Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ac amrywiol newidiadau gweithredol eraill.

Pennir sefyllfa ariannu'r Cyngor gan lefel y cyllid a gaiff ei roi gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn pennu'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Amcangyfrifir mai bwlch cyllidebol y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ar hyn o bryd yw £85.4miliwn. Mae hyn yn cynnwys bwlch gwerth £35miliwn ar gyfer 2024/25.

Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol

Yr wythnos nesaf bydd y Cabinet yn trafod cynigion i barhau i ddarparu Clybiau Brecwast Am Ddim, sydd fel arfer yn gweithredu rhwng 8.30am a 9am bob bore. Un o'r opsiynau arfaethedig sydd i'w trafod gan Gabinet y Cyngor yw ymgynghori ar gyflwyno tâl am yr elfen darpariaeth gofal plant ddewisol. Caiff hyn ei gynnig fel arfer rhwng 8am a 8.30am, cyn y sesiwn brecwast am ddim.

Y cynnig yw cyflwyno ffi o £1 y dydd am y ddarpariaeth gofal plant ychwanegol sydd ar gael ar hyn o bryd i blant mewn ysgolion, drwy'r gwasanaeth clwb brecwast. Fydd dim angen i blant wedi'u hasesu'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim dalu. Byddai incwm a ddaw yn sgil y cynnig yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cyllid ysgolion, er mwyn gwrthbwyso pwysau o ran costau.

Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith na fyddai'r cynigion mewn perthynas â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar fynediad disgyblion i glwb brecwast a brecwast iach am ddim. Bydd hyn ar gael o hyd i bob disgybl o’r dosbarth meithrin i flwyddyn 6 yn y cyfnod 30 munud cyn i’r ysgol ddechrau (fel arfer rhwng 8.30am a 9am). Mae’r tâl arfaethedig o £1 (neu £60 am dymor llawn) yn ymwneud â chyfnod o ofal plant a gynigir gan rai ysgolion cyn i’r ysgol ddechrau (fel arfer rhwng 8am a 8.30am).

Byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig yn cael ei gynnal am chwe wythnos (27 Tachwedd 2023, tan 8 Ionawr 2024). Os cytunir arno, gallai'r newid gael ei weithredu o fis Ebrill 2024. Byddai'r ymgynghoriad yn ceisio barn mewn perthynas â chonsesiynau posibl eraill i'r tâl o £1 – fel teuluoedd gyda mwy nag un plentyn yn defnyddio'r ddarpariaeth.

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Mae'r Cyngor yn cynnig y gweithrediad mwyaf o'i fath yng Nghymru, gan gynnig cludiant am ddim yn ôl disgresiwn i 9,000 o ddysgwyr. Mae hyn y tu hwnt i'r lefel statudol a nodir ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn darparu cludiant yn ôl disgresiwn i fwy o ddysgwyr na bron pob gweithrediad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol arall ymhlith yr holl gynghorau. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor wedi cynyddu o £8miliwn yn 2015 i dros £15miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

Yng ngoleuni'r costau uwch yma, bydd y Cabinet yn ystyried cynnig i ddiwygio Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.

Byddai'r opsiwn a ffefrir yn dod â'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd prif ffrwd, ysgolion uwchradd prif ffrwd a cholegau yn unol â'r gofynion pellter statudol. Byddai disgyblion ysgolion cynradd sy'n byw dwy filltir neu ymhellach o'u hysgol addas agosaf yn parhau i dderbyn cludiant am ddim (1.5 milltir yw'r ddarpariaeth bresennol). Byddai disgyblion ysgolion uwchradd a dysgwyr colegau sy'n byw tair milltir neu ymhellach o'u hysgol/coleg addas agosaf yn parhau i dderbyn cludiant am ddim (2 filltir yw'r ddarpariaeth bresennol).

O dan y polisi newydd arfaethedig byddai’r elfennau dewisol o ganiatáu i ddysgwr ddewis eu hysgol addas agosaf yn unol â'u dewis iaith neu yn unol â'u henwad crefyddol dewisol yn parhau. Byddai darparu cludiant ar gyfer plant iau nag oedran ysgol gorfodol a dysgwyr ôl-16 yn parhau hefyd. Mae hyn y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol yn statudol.

Byddai polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â chludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau yn ôl yr arfer.

Byddai'r opsiwn a ffefrir yn arbed £2.5miliwn y flwyddyn, ac yn cadw lefel uwch o ddarpariaeth.

Efallai bydd Aelodau’r Cabinet yn cytuno i ymgynghoriad chwe wythnos ar yr opsiwn a ffefrir. Byddai hyn yn cael ei gynnal o 27 Tachwedd 2023 tan 8 Ionawr 2024. Os cytunir ar y newidiadau, byddan nhw'n dod i rym ar ddechrau blwyddyn academaidd 2025/26.

Newidiadau Gweithredol Eraill

Mae Uwch Reolwyr y Cyngor wedi ymgymryd â gwaith canolbwyntio a blaenoriaethu i gyflwyno newidiadau gweithredol a fydd yn sicrhau arbedion o £1.525miliwn yn y gyllideb. Mae hyn wedi'i gynnwys yn rhan o waith ehangach i gyflwyno mesurau effeithlonrwydd cyffredinol gan adrannau'r Cyngor, gydag arbedion o £8.245miliwn ar gyfer 2024/25 eisoes wedi'u nodi hyd yma.

Mae’r newidiadau gweithredol yn cynnwys cau pyllau nofio’r Ddraenen Wen a Glynrhedynog dros y Nadolig, cau’r swyddfeydd tocynnau wyneb yn wyneb yn Theatrau RhCT (sef 16 awr yr wythnos ym mhob lleoliad), a lleihau oriau agor canolfannau hamdden, yn dibynnu ar alw (ond dim mwy nag wyth awr yr wythnos ym mhob canolfan).

Yn ogystal â hyn, bydd Llyfrgelloedd a Chanolfannau IBobUn yn cael eu had-drefnu, gan gynnwys adolygu eu horiau agor. Bydd y gwasanaeth Parciau a Glanhau Strydoedd hefyd yn cael ei ad-drefnu i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd. Bydd oriau agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn cael eu hadolygu, a byddwn ni'n ystyried proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol mewn perthynas â Chanolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdref. Mae manylion llawn wedi'u cynnwys mewn adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Llun.

Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Does dim un Cynghorydd yn dod i lywodraeth leol gyda'r bwriad o leihau darpariaeth y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnal, ond yn anffodus mae realiti'r sefyllfa ddifrifol sydd o'n blaenau ni'n golygu does dim dewis ond ailystyried y gwasanaethau rydyn ni'n eu blaenoriaethu neu ystyried sut y mae modd i ni wneud pethau'n wahanol. Mae gan bob Aelod etholedig gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cyngor yn llunio cyllideb gytbwys, ac mae ein dull rhagweithiol o fynd i'r afael â heriau ariannol tebyg yn y gorffennol yn rhoi sail ariannol gadarn i ni, sy'n bwysig wrth i ni gychwyn un o'r cyfnodau ariannu mwyaf heriol, yn seiliedig ar ragdybiaethau ariannu'r sector cyhoeddus ehangach o du Llywodraeth y DU.

“Ar ôl mantoli ein bwlch cyllidebol mwyaf erioed ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol gan hefyd osgoi toriadau mawr yn y broses – ac yn wynebu bwlch cyllidebol amcangyfrifedig pellach o £85.4m dros y tair blynedd nesaf, bydd angen i’r Cabinet ystyried nifer o adroddiadau gan swyddogion sy'n ceisio mynd i'r afael â'r diffyg sylweddol yn y cyllid y bydd y Cyngor yn ei wynebu y flwyddyn nesaf.

“Mae gan y cyngor ddyletswydd i osod cyllideb gytbwys yn gyfreithiol, ond bob blwyddyn mae hyn yn dod yn fwy anodd, mae’n gwbl annheg bod yn rhaid lleihau’r gwasanaethau rydym yn eu gwerthfawrogi o ganlyniad i amharodrwydd Llywodraeth y DU i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus.”

Dywedodd Mr Paul Mee, Prif Weithredwr y Cyngor:“Bydd y Cabinet yn trafod cyfres o gynigion gan swyddogion mewn ymateb i bwysau ariannol sylweddol. Mae Rhondda Cynon Taf ymhell o fod yn eithriad yn hyn o beth.

“Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae llywodraeth leol yn wynebu her ariannol enfawr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor ailystyried y gwasanaethau y mae’n eu darparu sy'n mynd tu hwnt i'r hyn rydyn ni'n rhwym o'u cynnal yn gyfreithiol.

"Dros y tair blynedd nesaf, rydyn ni'n rhagweld y bydd diffyg yn y gyllideb gwerth tua £85 miliwn yn wynebu'r Cyngor. Mae hyn yn golygu does dim modd osgoi penderfyniadau anodd os yw'r Cyngor am barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y tymor canolig i hir.

"Mae arbedion posibl wedi'u pennu'n gynnar wrth bennu'r Gyllideb. Mae hyn wedi ein galluogi i roi gwybod i breswylwyr ac ymgynghori â nhw yn llwyr, a hefyd ein galluogi i ystyried yr adborth a ddaw i law, a gwneud penderfyniadau terfynol cyn pennu cyllideb gyfreithiol-gytbwys erbyn mis Mawrth 2024. Os bydd y Cabinet yn cytuno dydd Llun 20 Tachwedd, byddai dau gyfnod ymgynghori chwe wythnos ar wahân ar gyfer Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-Ysgol a Chludiant i Ddisgyblion yn rhedeg o ddiwedd mis Tachwedd 2023 tan ddechrau Ionawr 2024.

“Mae'n bwysig nodi na fydd y cynigion Gofal Plant Oriau Dydd Cyn Oed Ysgol yn effeithio mewn unrhyw fodd ar glybiau brecwast i ddisgyblion – a fydd yn parhau i fod ar gael i bob disgybl o'r Meithrin i Flwyddyn 6 yn y cyfnod o 30 munud cyn i'r ysgol ddechrau. Mae’r tâl arfaethedig o £1 yn ymwneud â chyfnod o ofal plant a gynigir gan rai ysgolion cyn i’r ysgol ddechrau, a byddai’r cynigion yn berthnasol i’r 30 munud cyn y clwb brecwast. Mae pedwar Cyngor arall yng Nghymru eisoes yn codi tâl am wasanaeth tebyg, ac mae sawl un arall yn ei ystyried ar hyn o bryd.

“Mae costau Cludiant Ysgol bron wedi dyblu ers 2015, gyda llawer o Gynghorau eisoes wedi newid eu meini prawf cymhwyster. Mae canllawiau presennol Llywodraeth Cymru wedi bod ar waith ers 2014, ac ers bron i 10 mlynedd rydym wedi darparu cludiant am ddim i tua 9,000 o ddisgyblion. Byddai’r opsiwn a ffefrir yn alinio ein polisi â’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd prif ffrwd – tra byddai’r polisi diwygiedig hwn hefyd yn berthnasol i ddisgyblion ysgolion Cymraeg, Ysgolion Arbennig ac Ysgolion Ffydd, yn ogystal â myfyrwyr Ôl-16 oed, lle nad oes dyletswydd statudol inni ddarparu cludiant. Fel Cyngor byddem ni'n parhau i ddarparu lefel sylweddol o ddarpariaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y tu hwnt i'r hyn y mae'n ofynnol i ni ei wneud yn gyfreithiol.

"Bydd cyfres o newidiadau gweithredol hefyd yn cael eu ystyried cyn bo hir, yn rhan o'r ymdrech barhaus i nodi arbedion effeithlonrwydd na fyddan nhw'n effeithio llawer ar ein gwasanaethau. Mae mesurau effeithlonrwydd wedi bod yn rhan allweddol o'n proses o bennu'r Gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r math hwn o arbediad yn fwyfwy anodd i'w ganfod, ac mae swyddogion wedi gorfod edrych ar fesurau gweithredol eraill megis lleihau oriau agor ar gyfer rhai gwasanaethau, lle mae data defnydd yn awgrymu y bydd yn cael yr effaith leiaf.

"Mae’r dull yma'n ceisio lleihau'r pwysau dros dro. Pan fydd amgylchiadau’n caniatáu (e.e. os bydd cyllid y sector cyhoeddus yn cynyddu yn y tymor canolig i’r tymor hwy), bydd modd i ni ailystyried y newidiadau yma yn lefel y gwasanaethau.

“Ar ôl mantoli ein bwlch cyllidebol mwyaf erioed ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol gan hefyd osgoi toriadau mawr yn y broses – ac yn wynebu bwlch cyllidebol amcangyfrifedig pellach o £85.4miliwn dros y tair blynedd nesaf – dyma’r peth cyfrifol i’w wneud.”

Gallai Aelodau o’r Cabinet gytuno i ymgynghoriad chwe wythnos ar yr opsiynau a ffefrir, a fyddai’n rhedeg o 27 Tachwedd, 2023 hyd at Ionawr 8, 2024.

Wedi ei bostio ar 14/11/2023