Skip to main content

Gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar gyfer y groesfan newydd i gerddwyr yn Llanharan

Llanharan - Copy

DIWEDDARIAD, 23/11/23: nodwch, mae'r llwybr amgen yn rhan o'r trefniadau cau ffordd wedi cael ei ddiwygio yn yr erthygl isod.

 

Bydd ffordd ar gau ddydd Sul yma yn Llanharan ar gyfer gwaith gosod wyneb newydd yn ymwneud â'r groesfan newydd i gerddwyr sy'n cael ei gosod ger y siop gymunedol. Dyma fydd yr elfen olaf o'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r cynllun.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r Cyngor wedi bwrw ymlaen â gwaith i osod croesfan newydd â signalau i gerddwyr yn y lleoliad yma, yn dilyn ceisiadau gan y gymuned ac Aelodau Etholedig i wella diogelwch i gerddwyr. Mae'n dilyn gwaith gosod pont droed newydd yn lle pont droed y rheilffordd gyfagos. Mae wedi cynnwys gwaith gosod draeniau'r briffordd a gwaith gosod wyneb newydd doedd dim modd ei gwblhau yn ystod y gwaith ar gyfer y cynllun pont droed.

Mae'r holl waith i osod y groesfan newydd yn cael ei gwblhau yr wythnos yma. Wedyn, bydd y gwaith terfynol yn cael ei gynnal i osod wyneb newydd ar yr A473 Heol Pen-y-bont ar Ogwr (rhwng pont y rheilffordd a Rhodfa'r Bryn) o 7am tan 10pm ddydd Sul, 26 Tachwedd os yw'r tywydd yn caniatáu.

Bydd arwyddion i ddangos llwybr amgen i fodurwyr ar hyd yr A473 Heol Pen-y-bont, A473 Heol Newydd,Heol Brynna, Stryd Southall, Heol Brynna a Rhodfa'r Bryn.

Yn ystod y gwaith, fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad ar gael i gerddwyr. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr. Bydd mynediad i eiddo lleol ar gael.

Bydd bws gwennol hefyd ar waith ddydd Sul i liniaru’r aflonyddwch ar Wasanaeth 404 Stagecoach (Pontypridd i Ben-y-bont ar Ogwr). Bydd y bws gwennol yn cael ei redeg gan Bella Road a bydd yn teithio rhwng Cofeb Ryfel Llanharan a Stiwdios Ffilmio Bryn-cae. Dyma amserlen lawn.

Manteisir ar y cyfle hefyd i osod wyneb newydd ar ddarn 30 metr o Heol y Capel, sydd mewn cyflwr gwael. Bydd y fynedfa i Heol y Capel (o Heol Pen-y-bont ar Ogwr) ar gau oherwydd y gwaith, a bydd system unffordd y stryd yn cael ei dirymu dros dro er mwyn cynnal mynediad i drigolion.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith terfynol i osod y groesfan newydd gael ei gwblhau.

Wedi ei bostio ar 22/11/23