Skip to main content

Adroddiad cynnydd pellach ar weithgarwch ar safle Tirlithriad Tylorstown

Tylorstown phase four update - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf ar waith Cam Pedwar i adfer safle Tirlithriad Tylorstown. Mae'r rhan fwyaf o wastraff y pwll glo wedi'i symud i'r safle derbyn, ac mae cynnydd da wedi'i wneud i ddatblygu seilwaith draenio.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno ym mis Chwefror 2020 yn dilyn tair storm yn olynol – a chafodd ei achosi gan y glaw digynsail yn ystod Storm Dennis. Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr gyda sawl metr o falurion, a gorchuddiodd lwybr troed a rennir. Mae'r Cyngor wedi rhoi cynllun pedwar cam ar waith ar y safle. Roedd cam 1 yn cynnwys gwaith clirio brys yn yr wythnosau a ddilynodd.

Cafodd cam dau (atgyweirio'r argloddiau) a cham tri (symud deunydd o'r cwm i safle derbyn ac ailagor llwybrau) eu cwblhau ym mis Mehefin 2021 cyn cynnal gwaith ychwanegol yn nhymor yr hydref 2021 er mwyn sefydlogi'r llethr. Bydd gwaith terfynol ar gyfer defnydd parhaol o'r safleoedd derbyn yn cael ei ddatblygu a'i roi ar waith maes o law.

Derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio ar gyfer cam pedwar (adfer y domen bresennol ar y llethr) ym mis Hydref 2022 a dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2023.

Bydd cam pedwar yn symud tua 195,000m3 o ddeunydd o domen uchaf Llanwynno, gan gynnwys gwaith draenio a thirlunio. Bydd yr ardal yn cael ei hail-broffilio gan ddefnyddio  35,000m3 o'r deunydd yma er mwyn gwneud y dirwedd yn fwy gwastad. Bydd y broses yn cynnwys symud tua 160,000m3 o ddeunydd ar hyd tramffordd sydd ddim yn cael ei defnyddio i'r safle derbyn sydd i'r gogledd o 'Old Smokey'.

Diweddariad cynnydd diweddaraf - dechrau mis Tachwedd 2023

Mae gweithgarwch parhaus ar y safle gan Prichard's Contracting wedi parhau'n dda yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'r rhan fwyaf o'r deunydd gwastraff wedi'i symud o ochr y bryn i'r safle derbyn - gyda rhai newidiadau lleol iawn yn digwydd wrth i gyflyrau dŵr a thywydd ganiatáu. Wrth i'r deunydd rwbel gael ei symud, mae'r garfan dylunio a'r contractwr yn adolygu'r amodau tir sy'n cael eu datgelu yn fanwl, yn rhan o adolygiad parhaus o broffiliau terfynol ochr y bryn i sicrhau'r canlyniad mwyaf sefydlog.

Mae’r gwaith o osod y seilwaith draenio sylweddol hefyd wedi parhau – gyda mwy na 1,500 metr o bibellau draenio wedi’u gosod hyd yma. Mae adleoli’r deunydd gwastraff wedi bod yn heriol yn yr wythnosau diwethaf yn sgil y tywydd gwlyb – ond mae hyn wedi rhoi cyfle i sylwi ar y newidiadau i symudiad dŵr a ffynhonnau, wrth iddyn nhw ddatblygu i broffil newydd y bryn. Bydd y safle'n parhau i gael ei arsylwi a'i reoli dros gyfnod y gaeaf.

Mae'r gwaith o greu'r safle derbyn wedi symud ymlaen yn dda yn ddiweddar, gyda dau fasn gwanhau bellach wedi’u cwblhau ac yn weithredol. Mae'r trydydd hefyd bron wedi’i gwblhau. Bydd y basnau'n rheoli'r dŵr ffo i'r sianeli draenio sy'n bodoli eisoes, yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb.

Mae gwaith sy’n ymwneud â Cham Pedwar y cynllun adfer yn dal i fod ar y trywydd iawn i’w gwblhau i raddau helaeth ar amser, a hynny erbyn diwedd 2023. Serch hynny, bydd rhywfaint o waith ar ôl y bydd angen ei barhau tan ddechrau 2024. Bydd maint y gwaith yma'n dibynnu ar y tywydd yn yr wythnosau i ddod.

Oddi ar y safle, mae'r Cyngor yn gweithio i ddatblygu'r cynllun rheoli tir tymor hwy ar gyfer ochr y bryn, gan gynnwys ffyrdd o atal mynediad gan gerbydau oddi ar y ffordd. Ochr yn ochr â Heddlu De Cymru, bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o'r difrod mae modd i sgrialwyr ei achosi i safleoedd o'r fath.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae llawer o weithgarwch yn parhau ar safle gwaith Tirlithriad Tylorstown, wrth i waith sylweddol Cam Pedwar i adfer y domen sy’n weddill ar ochr y bryn fynd rhagddo tuag at ei gwblhau. Mae'r delweddau drôn diweddaraf yn dangos pa mor ddirfawr yw'r gwaith dan sylw, a hefyd y cynnydd da sydd wedi'i wneud yn y misoedd diwethaf i gludo miloedd o dunelli o ddeunydd gwastraff i'r safle derbyn.

“Mae cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud hefyd i ddatblygu’r seilwaith draenio ar ochr y bryn, ac i sefydlu dau o’r tri phwll gwanhau ar y safle derbyn i reoli llif y dŵr i’r sianeli draenio sy'n bodoli eisoes. Er ein bod wedi profi tywydd gwlyb parhaus yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan wneud cynnydd yn anos, mae Cam Pedwar yn dal i fod ar y trywydd iawn i fod yn gyflawn i raddau helaeth erbyn diwedd 2023. 

“Mae’r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun yma drwy’r Grant Diogelwch Tomenni Glo, ac mae gwaith pwysig hefyd yn digwydd y tu ôl i’r llenni – megis sefydlu Grŵp Rheoli Tir i fwrw ymlaen â chynllun pum mlynedd ar gyfer y safle. Yn y cyfamser, wrth ystyried rôl ehangach rheoli tomenni gwastraff glofeydd a chwareli, rydyn ni hefyd yn parhau i recriwtio i Garfan Diogelwch Tomenni Rhondda Cynon Taf.”

Dysgwch ragor am Gynllun Adfer Tirlithriad Tylorstown yma - www.rctcbc.gov.uk/TirlithriadTylorstown. Mae'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bedwar cam y gwaith, yn ogystal â'r bwriad yn y dyfodol ar gyfer Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach newydd.  Yn amodol ar gyllid yn y blynyddoedd i ddod, bydd yn cynnwys gwelliannau i nifer o strwythurau ar hyd y llwybr arfaethedig yn ogystal â llwybr ag arwyneb newydd i'r gymuned.

Wedi ei bostio ar 13/11/2023