Skip to main content

Lansiad Apêl y Pabi 2023: Yn Angof Ni Chânt Fod

Poppy Appeal Launch

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod wedi cynnal Lansiad Apêl y Pabi De-ddwyrain Cymru 2023 ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 28 Hydref. Arweiniodd y Lleng Brydeinig Frenhinol y gwasanaeth a daeth dros 300 o aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog ac aelodau'r cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Cafodd Cyngor Rhondda Cynon Taf yr anrhydedd o gynnal Lansiad Apêl y Pabi De-ddwyrain Cymru eleni ym Mharc Coffa Ynysangharad ddydd Sadwrn 28 Hydref.

“Mae Apêl y Pabi yn gyfle gwych i'n cymuned anrhydeddu'r unigolion dewr a wnaeth aberthau ar gyfer ein dyfodol, a chodi arian er mwyn cefnogi'n cymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

“Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi ennill Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, hanes rhyfeddol o gefnogi a gwerthfawrogi ein Lluoedd Arfog. Rwy'n falch o ddweud y daeth llawer o bobl i'r achlysur lansio, ac roedd yn ddiwrnod llawn balchder ac undod.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer Apêl y Pabi bob blwyddyn, gan annog pobl i wisgo pabi i dalu teyrnged i'r dynion a menywod di-rif a wnaeth yr aberth eithaf i ymladd dros ein gwlad a sicrhau ein dyfodol.

Meddai Philip Richards, Cadeirydd Cangen y Lleng Brydeinig Frenhinol ym Mhontypridd: “Ymunodd cynrychiolwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer Lansiad Blynyddol Apêl y Pabi De-ddwyrain Cymru.

“Bob blwyddyn rydyn ni'n dod at ein gilydd i ofyn am gefnogaeth ac i godi arian ar gyfer ein Cymuned y Lluoedd Arfog er mwyn helpu unigolion sydd o bosibl yn ei chael hi'n anodd. Mae'r arian sy'n cael ei godi bob blwyddyn yn mynd i mewn i'n cronfa ganolog, yn barod i gael ei ddefnyddio pan fo unigolion yn gwneud cais am gymorth.

“Fel elusen, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi ymrwymo i sicrhau lles pob aelod o'n Lluoedd Arfog trwy gynnig cymorth ariannol. Rydyn ni'n rhoi cymorth mewn perthynas â phroblemau symudedd, iechyd meddwl, lles, a llawer yn rhagor. Eleni bydd ein cronfa hefyd yn canolbwyntio ar helpu'r rheiny sy'n wynebu anawsterau gyda'r cynnydd yng nghostau byw.

“Llwyddodd Cangen Pontypridd y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n rhan o ardal De-ddwyrain Cymru, i godi dros £32,000 yn ystod Apêl y Pabi y llynedd, ac mae wedi codi dros £14,000 yn barod eleni.

“Hoffwn i ddiolch i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ei gefnogaeth barhaus tuag at y Lleng Brydeinig Frenhinol. Rydyn ni hefyd eisiau diolch i'r gymuned ehangach am ddod i'r achlysur ac am eu rhoddion hael a pharhaus.”

Cafodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei sefydlu yn 1921 a dyma elusen Lluoedd Arfog fwyaf y DU. Mae gan yr elusen dros 180,000 o aelodau a 110,000 o wirfoddolwyr. Mae'n rhwydwaith cenedlaethol sy'n rhoi cyngor, cefnogaeth a chymorth i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud rhodd, ewch i'r wefan neu ffonio 0345 845 1945.

Mae'r Cyngor yn parhau i ddathlu cyfraniad pob aelod o'r Lluoedd Arfog sydd wedi amddiffyn ein ffordd o fyw ac yn parhau i wneud hynny heddiw. Yn 2022, recriwtiodd y Cyngor Swyddog Henebion Treftadaeth a Chofebion Hanesyddol penodol a buddsoddodd arian pellach i sicrhau bod ein cofebion a'n senotaffau yn cael eu cynnal a'u cadw i'r safon uchaf, a hynny'n unol â chanllawiau Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Maen nhw'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i aelodau ddoe a heddiw'r Lluoedd Arfog. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Yn ôl yn 2012, daeth y Cyngor yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018 ac a osododd esiampl ar gyfer gweddill Cymru. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus i gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.

Wedi ei bostio ar 14/11/2023