Mae modd i fusnesau cymwys yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar ystod o grantiau o raglenni buddsoddi ariannol a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae ystod o grantiau ar gael, a'u nod yw cefnogi busnesau lleol i ymateb i'r heriau economaidd y maen nhw'n eu hwynebu, a'u cefnogi i feithrin cydnerthedd. Bydd y rhaglenni yn helpu busnesau i sefydlu, i dyfu ac i amrywiaethu, gan annog economi fywiog a chryf, adfywio canolfannau trefi a chanolfannau manwerthu, ac annog mwy o ymdeimlad o falchder yn y gymuned leol.
Mae cyfanswm o dros £2 filiwn ar gael i fusnesau Rhondda Cynon Taf tan fis Mawrth 2025.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu:
‘Rwy’n falch iawn o weld buddsoddiad yn cael ei gyfeirio at fusnesau lleol o Agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae'r grantiau yma'n darparu ymdeimlad gwych o rymuso i fusnesau lleol i ddatblygu a thyfu. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn galed, gyda llawer o fusnesau yn cau neu'n ei chael hi'n anodd oherwydd y pwysau a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19. Mae busnesau lleol yn helpu i lunio gwead ffisegol ein cymunedau, ac felly caiff y cyllid yma ei groesawu'n fawr. Yn ei dro, bydd y buddsoddiad yma'n gwella ein trefi lleol a'n pentrefi, gan fabwysiadu ymdeimlad o falchder lleol.'
Mae pedwar grant cyfalaf ar gael, gyda manylion cryno a chymhwysedd wedi’u hamlinellu isod:
Grant Mân Welliannau Canol Tref
- Cynorthwyo â gwelliannau ar raddfa fach i flaen allanol eiddo.
- Bydd y grant yn cynorthwyo hyd at werth 75% o'r costau cymwys gydag uchafswm grant o £2,000.
- Mae manwerthwyr a landlordiaid Canol Tref yn gymwys i ymgeisio.
Grant Twf Busnesau
- Mae'r grant ar gyfer dechrau Busnesau Micro a Busnesau Bach a Chanolig a ar gyfer helpu mentrau sy'n bodoli'n barod i dyfu.
- Bydd y grant yn cynorthwyo hyd at werth 75% o gostau cymwys gydag uchafswm grant o £15,000.
Grant Gwella Eiddo Masnachol
- Ar gyfer gwelliannau ar raddfa fwy (allanol yn bennaf) i adeiladau masnachol.
- Bydd y grant fel arfer yn cyfrannu hyd at werth 50% o gostau cymwys y prosiect gydag uchafswm grant o £50,000.
- Mae perchnogion neu brydleswyr adeiladau Manwerthu neu Ganol Tref yn gymwys i ymgeisio.
Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr
- Mae'r grant yma'n targedu adeiladau gwag yng nghanol trefi allweddol a lleoliadau strategol eraill er mwyn dychwelyd eiddo i ddefnydd buddiol.
- Bydd y grant fel arfer yn cynorthwyo hyd at werth 50% o gostau cymwys y prosiect gydag uchafswm grant o £250,000.
- Mae perchnogion adeiladau neu brydleswyr adeiladau mewn canolfannau manwerthu neu yng Nghanol Tref a lleoliadau strategol eraill (bydd lleoliadau strategol yn cael eu penderfynu gan y Cyngor) yn gymwys i ymgeisio.
I fwrw golwg ar yr ystod lawn o grantiau sydd ar gael, meini prawf cymhwysedd a manylion am sut i wneud cais, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GrantiauBusnesarTrydyddSector
Wedi ei bostio ar 15/11/2023