Skip to main content

Cynllun atgyweirio pont sylweddol yn ardal Porth ar fin cael ei gwblhau

Imperial Bridge Resurfacing - Tuesday 2 - Copy

Mae cynllun atgyweirio ac adnewyddu Pont Imperial yn ardal Porth bellach yn ei gamau olaf a disgwylir iddo gael ei gwblhau'r wythnos yma – gan fanteisio ar y tywydd teg a ragwelir, i gwblhau'r gwaith terfynol i wyneb y ffordd.

Mae'r gwaith ar y strwythur, y mae rhan o Heol Pontypridd arno, wedi cynnwys dau gam sylweddol o waith atgyweirio er mwyn trwsio difrod a gosod mesurau amddiffyn ar gyfer y dyfodol. Cafodd Cam Un ei gynnal yn 2022, a oedd yn cynnwys gwaith atgyweirio sylweddol i'r gwaith dur a chanllawiau, gwaith paentio a gosod berynnau newydd ar ochr ddeheuol y bont. Dechreuodd Cam Dau ym mis Ebrill 2023, ac mae wedi cynnwys gosod berynnau newydd ar ochr ogleddol y bont ac atgyweiriadau i wal adain.

Gwaith diweddaraf ar y safle wedi’i gynnal gan gontractwr y Cyngor, Centregreat Ltd, fu gwneud llawr y bont yn wrth-ddŵr. Yn dilyn toriad oherwydd y tywydd gwael diweddar, a oedd yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r elfen yma o’r cynllun, cwblhawyd yr holl waith yma gan y contractwr ddydd Llun, 20 Tachwedd.

Mae gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau a gwaith gosod llinellau gwyn ar ran y bont ar Heol Pontypridd bellach yn cael eu datblygu, ac mae’r cynllun cyffredinol ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn dydd Gwener, 24 Tachwedd. Mae hyn yn parhau i fod yn amodol ar y tywydd sych a ragwelir ar gyfer yr wythnos yma.

Unwaith y bydd y ffordd wedi'i hailagor, bydd y Cyngor yn rhoi trefniadau ar waith i ddychwelyd yr amserlenni bysiau lleol yn ôl i'r arfer – gan weithio gyda gweithredwyr lleol i wneud hyn cyn gynted â phosibl. Fydd y gwasanaeth bws gwennol dros dro ar ddydd Sul rhwng Heol Llwyncelyn a Chanol Tref Porth ddim yn gweithredu mwyach.

Mae cynllun Pont Imperial wedi'i ariannu gydag arian wedi'i ddyrannu ar gyfer Strwythurau Priffyrdd yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd. Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad drwy gydol cyfnod y gwaith – a oedd yn hanfodol i atgyweirio a diogelu'r strwythur pwysig yma at y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 21/11/23