Skip to main content

Dadorchuddio Placiau Glas Mis Hydref

Blue Plaque Landscape

Mae Cynllun Placiau Glas Rhondda Cynon Taf yn dathlu treftadaeth y Fwrdeistref Sirol drwy osod placiau glas sy'n coffáu pobl sydd wedi cyfrannu at hanes yr ardal ar adeiladau lle'r oedden nhw'n gweithio, byw neu berfformio. Cafodd dau blac glas eu dadorchuddio yn Rhondda Cynon Taf fis yma er mwyn coffáu dau unigolyn haeddianol.

Cafodd y cyntaf ei ddadorchuddio yn Stanleytown ar 14 Hydref pan gafodd plac yn coffáu Gwilym Elfed (Elfie) Davies, Arglwydd a Barwn Davies Pen-rhys ei osod ar y tŷ lle'r oedd yn byw yn 22 Y Teras Canol.

Derbyniodd Elfed ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhondda Tylorstown cyn mynd yn löwr. Ymunodd â'r Blaid Lafur a Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1929 cyn dod yn gadeirydd, yn drysorydd ac yna'n ysgrifennydd Cyfrinfa Glofa Tylorstown rhwng 1934 a 1954.   Dechreuodd ei yrfa wleidyddol rhwng 1958 a 1959 pan oedd yn gadeirydd ar Ddosbarth Aberdâr a Chwm Rhondda Undeb Cenedlaethol Gweithwyr Glofeydd y DU ac yn weithgar gyda'r Blaid Lafur.

Bu'n aelod o Gyngor Sir Forgannwg rhwng 1954 a 1961. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Dwyrain Cwm Rhondda yn etholiad cyffredinol 1959 gan fynd ymlaen i gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Davies Pen-rhys cyn iddo fod yn Ysgrifennydd Preifat Ray Gunter, Y Gweinidog Pŵer rhwng 1964 a 1968. Bu'n aelod seneddol hyd nes i'w etholaeth gael ei ddiddymu yn ystod etholiad cyffredinol mis Chwefror 1974. Cafodd Elfie ei urddo'n arglwydd am oes yn Farwn Davies Pen-rhys o Gwm Rhondda yn Sir Forgannwg Ganol. Wedi iddo ymddeol, bu'n aelod o Fwrdd Trydan De Cymru a Chyngor Chwaraeon Cenedlaethol Cymru. 

Mae'r ail blac gafodd ei ddadorchuddio ym mis Hydref yn coffáu Mr John Haydn Davies MBE, a oedd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion byd-enwog Treorci.

Cafodd John Davies ei eni ar 3 Chwefror 1905 ym mhentref Blaen-cwm. Derbyniodd ei addysg gynradd yn yr ysgol leol ym Mlaen-cwm cyn mynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Tonypandy a Choleg Technegol Caerllion. Wedi iddo gwblhau ei gwrs yng Nghaerllion, dychwelodd i Flaen-cwm yn athro, gan ddod yn bennaeth yn 1955. Yn 1960 cafodd ei benodi'n bennaeth Ysgol Bodringallt yn Ystrad cyn ymddeol yn 1970.

Pan oedd yn ifanc, roedd gan John Davies ddiddordeb mewn dosbarthiadau sol-ffa tonig cyn dechrau canu'r ffidil ac ymuno â'r seindorf amatur lleol. Roedd ei brofiad a gwybodaeth am sol-ffa yn werthfawr iawn pan ddechreuodd arwain Côr Meibion Blaenselsig yn 1933, yntau'n 28 mlwydd oed. Rhwng 1935 a 1947 bu'n arwain Cymdeithas Gorawl Blaen-cwm yn llwyddiannus.  Penodwyd John yn Arweinydd Cynorthwyol i Arthur Davies, arweinydd Côr Meibion Ardal Treorci yn 1938, gyda'i gyfaill Tom Jones yn bianydd. Daeth y côr i ben yn 1943, ond cafodd John ei benodi'n arweinydd llawn amser pan ailffurfiwyd y côr dair blynedd yn ddiweddarach. Cafodd Côr Meibion Treorci ei drawsnewid dan ei arweinyddiaeth ddisglair o garfan werinol yn sefydliad cerddorol sy'n uchel ei barch yn rhyngwladol.

Roedd yn arloesol yng nghyfnod dad-eni corau meibion wedi'r rhyfel gan ennill enw da yn y maes corau meibion drwy ennill wyth gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â pheidio â chael eu trechu gyda phum gwobr gyntaf yn Eisteddfod y Glowyr. Enillodd y Côr 22 cystadleuaeth o'r 27 cymrydodd e ran ynddyn nhw. Arweiniodd John y côr am 514 perfformiad cyngerdd anhygoel drwy gydol cyfnod ei arweinyddiaeth. Roedd y côr ymhlith y rhai cyntaf i fentro i'r byd recordio. Fe, bellach, yw'r côr sydd â'r nifer fwyaf o recordiadau'n fyd-eang, gyda thros 90 o recordiadau masnachol. Roedd gan y côr raglen wythnosol ei hun ar BBC Radio Wales hefyd. Roedd aelodau'r côr a chyfeillion wedi gwirioni pan gafodd e anrhydedd MBE gan y Frenhines yn 1961.

Wedi iddo ymddeol o'r côr yn 1969, parhaodd John yn ffyddlon i'r côr gan wasanaethu'n Arweinydd Emeritws rhwng 1969 a 1991 ac yn Is-lywydd rhwng 1971 a 1991.

Bu farw John Haydn Davies MBE yn 1991, ond mae ei ôl wedi'i adael am byth. Mae enw da Côr Meibion Treorci yn golygu fod Cwm Rhondda yn adnabyddus yn fyd-eang. Roedd pawb oedd yn adnabod John yn ei garu a'i barchu a'i gyfraniad bythol mwyaf yw Côr Meibion byd-enwog Treorci.

Meddai'r Cynghorydd Wendy Lewis, Maer Rhondda Cynon Taf:

Roedd Gwilym Elfed Davies a John Haydn Davies MBE ill dau yn aelodau uchel eu parch o'u cymunedau. Roedd yn fraint fawr i ddadorchuddio placiau glas er mwyn coffáu'r unigolion yma, eu bywydau anhygoel a'u cyflawniadau yma yng Nghwm Rhondda.   Mae'r Cynllun Placiau Glas yn parhau i'n hatgoffa ni am hanes bywiog Rhondda Cynon Taf a'r bobl anhygoel sydd wedi byw yma.

 Os hoffech chi ddysgu rhagor am y cynllun Placiau Glas neu os ydych chi eisiau cael gwybod am sut i enwebu person ar gyfer y cynllun, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar 31/10/2023