Skip to main content

Mae bellach modd trefnu sesiwn ar faes chwaraeon 3G newydd Glynrhedynog

Darran Park 3G pitch 1 - Copy

Llun: South Wales Sports Grounds

Mae'r maes chwaraeon 3G newydd sbon ym Mharc y Darren yng Nglynrhedynog bellach yn barod i'w ddefnyddio. Dyma faes arwyneb artiffisial rhif 16 y Cyngor ac mae'n addas ar gyfer pob tywydd. Mae ar gael diolch i fuddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden awyr agored.

Mae'r contractwr, South Wales Sports Grounds, wedi cynnig cyfleuster ardderchog, gan osod arwyneb modern sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pob tywydd yn lle'r hen faes astro-turf. Yn dilyn cwblhau'r cam adeiladu'n ddiweddar, mae'r Cyngor wedi derbyn cadarnhad o fesurau diogelwch perthnasol – sy'n caniatáu i'r cyfleuster gael ei ddefnyddio o 26 Medi ymlaen.

Mae'r Cyngor wedi cyfrannu £175,000 ar gyfer y prosiect, a chafodd hyn ei gytuno gan Aelodau'r Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Awst 2022 yn rhan o fuddsoddiad cyfalaf un-tro mewn meysydd blaenoriaeth. Mae grant pellach gwerth £170,000 wedi'i sicrhau gan Sefydliad Pêl-droed Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.

Mae'r maes 3G sy'n cynnwys llifoleuadau wedi'i gynllunio at safonau achrediad Cynghrair Alliance De Cymru a Chynghrair Reserve Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn cynnal gemau pêl-droed cynghrair. Efallai bydd yn cael ei uwchraddio i safonau Cynghrair Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru (hyd at Haen 2). Mae gan yr arwyneb isgarped 'pad bwrw' hefyd sy'n ei wneud yn addas ar gyfer hyfforddiant rygbi.

Mae clybiau lleol a'r gymuned ehangach bellach yn gofyn am ddefnyddio'r maes – naill ai ar gyfer sesiwn un-tro neu ar gyfer cyfres o sesiynau. I gael gwybodaeth am argaeledd y maes, e-bostiwch ArchebuCaeChwaraeon@rctcbc.gov.uk

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor bellach yn gweithredu 16 maes chwaraeon 3G 'pob tywydd' mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, am ein bod ni wedi cyflawni ein bwriad o fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden awyr agored. Maen nhw wedi cael eu darparu ynghyd â'n tri chyfleuster trac athletau modern yn Aberdâr, Beddau a Chwm Clydach.

"Hoffwn i ddiolch i Sefydliad Pêl-droed Cymru am ei gymorth parhaus, am iddo weithio agos â'r Cyngor nid yn unig ar waith gwella Parc y Darren, ond ar ein prosiect blaenorol yng Nghae Baglan ym Mhenyrenglyn. Cafodd Cae Baglan ei agor yn swyddogol gan Reolwr Cymru, Rob Page, ym mis Tachwedd y llynedd. Mae'r Sefydliad yn cyflawni gwaith gwerthfawr yn ein cymunedau, drwy weithio'n agos â chlybiau ac ysgolion lleol i ddatblygu cyfleoedd i bawb gymryd rhan. 

"Mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn meysydd chwaraeon 3G newydd am fod gyda nhw nifer o fanteision o'u cymharu ag arwynebau gwair traddodiadol. Dydyn nhw ddim yn dirywio ac mae modd eu defnyddio nhw ym mhob tywydd oni bai am dywydd eithafol. Bydd, fell, modd i drigolion barhau i'w mwynhau drwy gydol misoedd y gaeaf. Maen nhw hefyd yn caniatáu i glybiau chwaraeon lleol chwarae pob gêm wedi'u trefnu. Yn y gorffennol, byddai rhai gemau wedi cael eu canslo.

"Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflawni ei ymrwymiad uchelgeisiol i sicrhau bod maes chwaraeon 3G o fewn tair milltir i bob cartref yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd hyn ei gyflawni diolch i sawl blwyddyn o fuddsoddiad. Mae clybiau ac unigolion bellach yn trefnu sesiynau ar faes chwaraeon Parc y Darren, ac rwy'n sicr y bydd trigolion yng Nglynrhedynog a chymunedau cyfagos yn gwneud defnydd mawr o'r cyfleuster gwych yma am flynyddoedd i ddod."

Wedi ei bostio ar 29/09/2023