Skip to main content

Trefniadau gwasanaethau bws pan fydd ffordd ar gau yn Nhrewiliam ar ddydd Sul

temporary-bus-arrangements_WELSH

Bydd trefniadau bws dros dro ar waith yn #Trewiliam ddydd Sul yn sgil cau'r ffordd yn Stryd yr Ysgol ar gyfer gwaith gosod wyneb newydd.

Bydd y cynllun ar waith ddydd Sul, 1 Hydref, rhwng 8am a 6pm – ar gyffordd Stryd yr Ysgol gyda Heol y Mynydd.

Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr ar hyd Stryd Blanche, Stryd Caroline a Heol y Mynydd.

Bydd mynediad i gerddwyr, ond nid i'r gwasanaethau brys. Bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r mynediad i gerddwyr.

Yn ystod y cyfnod cau, fydd dim modd i wasanaeth 122 Stagecoach (Maerdy-Caerdydd) a gwasanaeth 172 Stagecoach (Aberdâr-Porthcawl) wasanaethu Trewiliam, Edmondstown a Threbanog.

Bydd y ddau wasanaeth yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A4119 a’r A4233 ac yn dychwelyd i'w llwybrau arferol i'r ddau gyfeiriad yn Siop Capel Hill (gwasanaeth 122) ac yn Llety Brentan, Heol Collenna (gwasanaeth 172), yn y drefn honno.

Bydd dau fws gwennol rhad ac am ddim yn gwasanaethu Trewiliam, Edmondstown a Threbanog yn lle gwasanaeth 122 a gwasanaeth 172 – mae’r ddau yn gwasanaethu arhosfan bws Morgannwg ar Stryd y Nant, Trewiliam.

Bydd bws gwennol 122A yn cwrdd gwasanaeth 122 yn Siop Capel Hill yn y ddau gyfeiriad, er mwyn parhau â'r daith i Donysguboriau a Chaerdydd.

Bydd bws gwennol 172A yn cwrdd gwasanaeth 172 yn Llety Brentan, Heol Collenna yn y ddau gyfeiriad, er mwyn parhau â'r daith i Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Tonypandy ac Aberdâr.

Bydd y bws gwennol yn cael ei weithredu gan Bella Road Services (01443 226992) a bydd yn dilyn yr amserlen ganlynol, sydd wedi'i hysbysebu'n lleol.

Diolch am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 28/09/23