Skip to main content

Mae Siôn Corn yn dychwelyd i'w ogof yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Santa 465x310

Dyma ddatgelu newyddion mwyaf hudolus y flwyddyn! Bydd Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda o 25 Tachwedd. Bydd tocynnau’n mynd ar werth o ddydd Mawrth 26 Medi.

Mae gweithwyr Ogof Siôn Corn yn brysur yn cynllunio ar gyfer yr achlysur eleni (ac yn gwneud teganau wrth gwrs) felly dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod:

Beth mae Siôn Corn yn ei wneud eleni?
Wrth gwrs, bydd pob tocyn yn cynnwys taith dywys drwy'r ogof er mwyn dod o hyd i Siôn Corn yn ei ogof ysblennydd. Bydd y gweithwyr yn mynd â chi ar daith yr holl ffordd drwy'r ogof Nadoligaidd hyfryd - bydd nifer o gliwiau i'w gweld ar hyd y ffordd er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i'r dyn ei hun!

Eleni, bydd Siôn Corn yn dod â sêr hudolus yr holl ffordd o Begwn y Gogledd a bydd pob plentyn yn derbyn seren i'w chyfnewid am anrheg yn Siop Deganau Siôn Corn lle bydd dewis o gemau a theganau sydd wedi'u gwneud yn yr ogof yn aros amdanoch chi.

Bydd modd cael llun gyda Siôn Corn hefyd a bydd modd prynu cofroddion o'ch ymweliad hudolus ag Ogof Siôn Corn yn y siop deganau. Nodwch – bydd cost ychwanegol am y rhain.

Mae modd i ymwelwyr ddod i’n siop gwin cynnes a byrbrydau i brynu danteithion Nadoligaidd!

Bydd tocynnau ar gael ar www.parctreftadaethcwmrhondda.com  Pris tocynnau fydd £4 i fabanod 0-18 mis ac £11.50 i blant eraill ac oedolion. Wrth gwrs, mae Siôn Corn wrth ei fodd yn croesawu grwpiau ysgol hefyd – pris tocynnau fydd £9 y plentyn gydag athro/athrawes am ddim ar gyfer y 10 plentyn cyntaf yn y grŵp, a £5 yr un ar gyfer pob athro neu oedolyn ychwanegol. Nodwch fod angen tocyn ar bawb sy'n mynd ar y daith.

Mae modd i ysgolion a grwpiau gadw lle drwy ffonio’r dderbynfa ar 01443 682036. Mae nifer o deithiau tawel hefyd wedi'u trefnu. Gellir archebu tocynnau ar gyfer y teithiau hyn ar-lein hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: Mae Ogof Siôn Corn yn brofiad Nadoligaidd unigryw iawn i blant ac oedolion. Mae gweithwyr yr ogof yn trawsnewid Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ogof Nadoligaidd ac mae'r daith drwy'r ogof yn unigryw. Bob blwyddyn rydyn ni'n croesawu miloedd o drigolion ac ymwelwyr i'n Bwrdeistref Sirol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu miloedd yn rhagor i achlysur 2023.

Mae Ogof Siôn Corn wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar a phroffesiynol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 35 mlynedd.

Wedi ei bostio ar 22/09/2023