Skip to main content

Cymorth pwysig gan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a'r Gronfa Trafnidiaeth Leol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei dyraniadau cyllid i Rondda Cynon Taf ar draws ei Chronfa Ffyrdd Cydnerth a’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol – sef cyfanswm o £1.3 miliwn rhwng y ddwy raglen.

Mae'r Cyngor wedi croesawu'r cymorth ariannol sylweddol yma, i ategu ei ddyraniadau cyllid pwysig ei hun a amlinellwyd yn y Rhaglen Gyfalaf o £27.665 miliwn ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn 2023/24.

Mae'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth wedi cefnogi'r Cyngor dros nifer o flynyddoedd, i dargedu gwelliannau draenio â blaenoriaeth ar ardaloedd o'r rhwydwaith ffyrdd sydd â hanes o lifogydd. Bydd y cyllid o £900,000 a sicrhawyd eleni yn cyflawni ac yn datblygu prosiectau ymhellach. Bydd y rhain yn amrywio o uwchraddio llinellau cludo i fesurau lliniaru llifogydd dros y tir, gwella cwlfertau a gwaith cwrs dŵr arferol.

Mae'r Gronfa Trafnidiaeth Leol hefyd yn gwahodd ceisiadau am arian gan Awdurdodau Lleol bob blwyddyn, i helpu i gyflawni gweledigaeth a blaenoriaethau strategaeth trafnidiaeth Cymru. Mae £400,000 wedi'i sicrhau o'r Gronfa gan y Cyngor yn 2023/24. Mae rhagor o fanylion am y cyllid gan y ddwy raglen wedi’u cynnwys isod:

Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth (2023/24) – £900,000

  • Prosiect Cydnerth Llifogydd y Rhwydwaith Trafnidiaeth Strategol:

- Mae'r rhain yn cynnwys 13 o gynlluniau ledled ardaloedd Cwm Rhondda a Chwm Cynon, gydag arian cyfatebol o £100,000 yn cael ei gyfrannu gan y Cyngor. Cyfanswm y buddsoddiad felly yw £1 miliwn.

- Bydd naw o’r cynlluniau’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cyllid 2023/24, ynghyd â dyluniad y pedwar cynllun sy’n weddill.

- Bydd y cynlluniau’n targedu dau leoliad yr un yn Nhrealaw, Ynys-hir a’r Porth, ac un lleoliad yr un yn Aberaman, Llwyncelyn, Tonyrefail, y Cymer, Abercynon a Threherbert.

Cronfa Trafnidiaeth Leol (2023/24) – £400,000

  • A4059 Porth Gogledd Cwm Cynon a Ffordd Gyswllt Llanharan (£200,000):

- Ailedrych ar nodau'r prosiectau yma yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Ffyrdd, gan edrych ar sut y mae modd mynd i'r afael â'r heriau traffig a thrafnidiaeth yn yr ardaloedd priodol.

  • Gwelliannau i arosfannau bysiau o dan y Cynllun Blaenoriaeth i Fysiau (£200,000):

- Canolbwyntio ar lwybrau lleol yn Aberdâr a Phontypridd

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r Cyngor yn parhau i groesawu cefnogaeth bwysig Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau wedi’u targedu i’n rhwydwaith priffyrdd, gan ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth fel cynnal a chadw ein ffyrdd, mesurau lliniaru llifogydd, a hyrwyddo cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol. Rydw i’n falch bod £1.3 miliwn o gyllid wedi’i roi gan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a’r Gronfa Trafnidiaeth Leol.

“Mae’r cyllid yma ar ben cymorth Llywodraeth Cymru gan y Gronfa Teithio Llesol (£3.43 miliwn), y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (£384,290), rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (£3.82 miliwn) a’r rhaglen Grant Gwaith Graddfa Fach (£1.003 miliwn) – yn ogystal â rhaglen wedi’i hariannu’n llawn i atgyweirio seilwaith yn dilyn difrod Storm Dennis. Mae'r llwybrau yma, ynghyd â'n cyllid mawr ein hunain, yn galluogi buddsoddiad enfawr ar draws ein rhwydwaith ffyrdd eleni.

“Bydd y cyllid newydd o’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth yn ein galluogi i barhau â’n gwaith i gyflawni gwelliannau draenio wedi’u targedu ar ein rhwydwaith priffyrdd. Cyflawnodd y Cyngor 40 o gynlluniau dros y tair blynedd diwethaf, gan ddefnyddio tua £8 miliwn o arian grant Ffyrdd Cydnerth. Cwblhawyd gwaith mewn lleoliadau allweddol y llynedd fel yr A4061 Ffordd Rhigos, yr A4059 yn y Drenewydd, a Stryd Abertonllwyd a Stryd Dunraven yn Nhreherbert. Bydd 13 o gynlluniau pellach yn cael eu symud ymlaen gyda’r cyllid diweddaraf, gyda naw yn cael eu darparu yn 2023/24 a’r lleill yn cael eu datblygu.

"Mae'r Gronfa Trafnidiaeth Leol wedi nodi gwerth £200,000 o gyllid i fynd i'r afael â’r heriau traffig yn Llanharan ac yng Nghwm Cynon Uchaf. Mae hyn yn dilyn adborth gan yr Adolygiad Ffyrdd ar ein prosiectau trafnidiaeth arfaethedig ar gyfer yr ardaloedd yma. Mae hefyd yn dyrannu gwerth £200,000 ar gyfer uwchraddio arosfannau bysiau yn Aberdâr a Phontypridd i barhau gyda'n buddsoddiad pwysig mewn cyfleusterau lleol. Cafodd arosfannau bysiau eu gwella ar hyd y llwybr rhwng Porth, Tonyrefail a Gilfach Goch y llynedd, yn dilyn buddsoddiad tebyg o Abercynon i Aberaman yn 2020/21.”

Wedi ei bostio ar 29/09/2023