Skip to main content

Lido Ponty Sesiynau Nofio Mewn Dŵr Oer.

Square-Cold-Water-Swim

Wrth i dymor yr haf ddirwyn i ben, mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty'n paratoi i ostwng tymheredd y dŵr a pharatoi ar gyfer dychweliad sesiynau nofio mewn dŵr oer.

Yn dilyn sesiynau treial llwyddiannus y llynedd, bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty ar 21 Hydref. Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei osod ar dymheredd gostyngol o 15 gradd a bydd sesiynau ar y penwythnos yn llawn nofwyr anturus.

Bydd sesiynau nofio dŵr oer yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 21 Hydref a 26 Tachwedd yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau. Bydd y sesiynau'n para 45 munud a byddan nhw'n dechrau am 8am, 9am, 10am ac 11am.

Denodd sesiynau y llynedd ymwelwyr o bob cwr o'r DU, boed ar gyfer sesiynau nofio hamddenol neu hyfforddi ar gyfer cystadlaethau. Rydyn ni'n gobeithio'u gweld nhw eto yn 2023.

Bydd tocynnau ar gyfer sesiynau nofio mewn dŵr oer yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 4 Hydref ar www.lidoponty.co.uk

Mae prif dymor haf Lido Ponty yn dod i ben. Bydd amserlen gwyliau'r haf – dwy sesiwn gynnar yn y bore ac yna chwe sesiwn hwyl i'r teulu, sy'n cynnwys teganau gwynt – yn dod i ben ddydd Llun 4 Medi.

O ddydd Mawrth 5 Medi, dim ond dwy sesiwn gynnar yn y bore fydd yn ystod yr wythnos, a dwy sesiwn gynnar yn y bore a chwe sesiwn hwyl i'r teulu ar benwythnosau.

Ddydd Sul 17 Medi, bydd Lido Ponty'n cau ei drysau a bydd paratoadau ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dechrau.

Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei gynyddu'n ôl i 28 gradd ar gyfer achlysuron ar Ŵyl San Steffan a dydd Calan wedi i'r sesiynau nofio mewn dŵr oer ddod i ben. Does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer hyn eto.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Yn dilyn dechrau hyfryd i dymor Lido Ponty 2023, doedd yr haf ddim yn wych o ran tywydd.

"Fodd bynnag, wnaeth hyn ddim tarfu ar yr hwyl yn Lido Ponty ac roedd yn wych i weld cynifer o bobl yn teithio o bob cyfeiriad i ymdrochi yn y dyfroedd cynnes a rhoi cynnig ar y gweithgareddau, gan gynnwys y cwrs rhwystrau teganau gwynt, 'zorbs' dŵr a'r cychod.

"Mae'r Lido wedi'i leoli ym Mharc Coffa hardd Ynysangharad, sy'n gartref i Eisteddfod 2024. Yn wir, does unlle arall yn debyg iddo yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi croesawu 106,000 o ymwelwyr i'r Lido eleni hyd yn hyn."

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 07/09/23