Skip to main content

Pigo pwmpenni a hwyl arswydus i'r plant yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Spooktacular 2022 - WME - Halloween -- Full GDPR-48re-sized

Bydd Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 30 a 31 Hydref, ac eleni bydd rhagor ar gael na’r arfer.

  • Pigwch eich pwmpen eich hun yn y Bwmpenfa
    Ewch am dro drwy'r Bwmpenfa i chwilio am eich pwmpen berffaith cyn mynd â hi adref i'w naddu a rhannu lluniau gyda ni ar Facebook drwy dagio @rhonddaheritagepark (Un bwmpen ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Crefftau Crefftus
    Gwnewch gorynnod sbonciog ac addurniadau Calan Gaeaf ar gyfer eich drws.  (Un o bob un ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Helfa Calan Gaeaf
    Mae ein hysbrydion Calan Gaeaf ni wedi dianc ac eich swydd chi fydd chwilio amdanyn nhw! Casglwch y stamp er mwyn derbyn losin (neu lanast) wedi ichi ddod o hyd iddyn nhw i gyd. (Un cerdyn gweithgareddau ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Lluniau arswydus hwyl
    Byddwch yn barod â'ch camerâu i dynnu llun dychrynllyd yn ein detholiad o gyfleoedd lluniau arswydus. Peidiwch ag anghofio tagio @rhonddaheritagepark ar Facebook
  • Adfail y Pwll Glo
    Ydych chi am fentro dan ddaear i adfail y pwll glo? Edrychwch am Sgerbydau Swynol, Corynnod Cyfoglyd a mwy wrth ichi gerdded drwy'r atyniad Calan Gaeaf yma.  Bydd modd i ymwelwyr fynd i lawr yn y lifft i adfail y pwll glo cymaint o weithiau â maen nhw eisiau yn y slot amser sydd wedi'i gadw.
  • Ffair Hwyl Ffang-tastig
    Mae dwy reid ffair i blant wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.

Bydd tri slot amser ar gael bob dydd, 10am-12pm, 12.30pm -2.30pm a 3pm-5pm.

Yn ogystal â'r holl weithgareddau yma, bydd y garfan ar y safle hefyd yn cynnal gweithgareddau thema Calan Gaeaf a pheintio wynebau.  Nodwch nad yw peintio wynebau wedi'i gynnwys ym mhris y tocyn.

Bydd y Chocolate House yng Nghaffi Bracchi hefyd yn cynnal gweithgareddau naddu pwmpenni ac addurno siocled.  Unwaith eto, dyw'r rhain ddim wedi'u cynnwys yn rhan o docyn Rhialtwch Calan Gaeaf ac mae angen cadw lle'n uniongyrchol â'r Chocolate House yma Gweithdy Calan Gaeaf | Chocolate House (chocolate-house.co.uk)

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn parhau i gynnal achlysuron anhygoel i'r teulu drwy gydol y flwyddyn. Dechreuodd y tymor achlysuron adeg y Pasg gydag Ŵy-a-sbri cyn mynd ymlaen i Haf o Hwyl ac ymhen dim, bydd Ogof Siôn Corn yn agor ei drysau i drigolion ac ymwelwyr i'n Bwrdeistref Sirol.  Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn achlysur ffang-tastig ac mae'r bwmpenfa newydd yn ychwanegu i achlysur sy'n ffefryn i'r teulu!  Mae taith yn y lifft i waelod y pwll glo wedi bod yn rhan arbennig iawn o'r daith, a bydd modd i ymwelwyr Rhialtwch Calan Gaeaf fynd i lawr cymaint o weithiau â maen nhw eisiau yn ystod eu hymweliad.  Wrth gyfuno hyn â'r Crefftau Crefftus a'r Helfa Calan Gaeaf, mae'n sicr o fod yn achlysur Calan Gaeaf gwych.

Bydd mynediad i Rialtwch Calan Gaeaf yn £9 i blant sy'n cymryd rhan a £3 i oedolion.  Mae tocynnau ar werth nawr ac ar gael yma.

Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn Nhaith Pyllau Glo Cymru wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd.

 

Wedi ei bostio ar 14/09/2023