Skip to main content

Gwirfoddolwyr Valley Veterans yn dod ynghyd â staff Rhondda Cynon Taf i gychwyn ar ein Prosiect Glanhau Cofebion Rhyfel

Ddydd Gwener, 15 Medi, cafodd cofeb rhyfel Tonypandy ei glanhau mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr Valley Veterans. Dyma'r gofeb gyntaf i gael ei glanhau gan wirfoddolwyr yn rhan o raglen gwaith ehangach ar gofebion a fydd yn cael ei rhoi ar waith dros y misoedd nesaf.

Nod y prosiect yw dod ag aelodau'r gymuned ynghyd i roi cymorth i gynnal a chadw'r cofebion rhyfel, sicrhau eu bod nhw'n cael eu gofalu amdanyn nhw, ac i ddiogelu ein treftadaeth. Yn rhan o'r prosiect yma, bydd cyfres o wahanol grwpiau o Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo yn y gwaith cynnal a chadw blynyddol o'r cofebion, gyda'r grŵp cyntaf, Valley Veterans, yn ymuno â ni ar 15 Medi. Mae'r Cyngor yn gobeithio ymgysylltu â grwpiau gwirfoddoli eraill i helpu gyda glanhau yn y dyfodol. Cynhelir yr un nesaf ym mhentref Penygraig ddydd Gwener, 29 Medi.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gweithio ar y cyd gyda grwpiau cymunedol lleol, ar sawl prosiect coffa sydd wedi cynnwys gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Yn 2022, fe wnaethon ni benodi Swyddog Henebion Treftadaeth a Chofebion Hanesyddol i ddatblygu rhaglen buddsoddi a gwella i gofebion Rhondda Cynon Taf yn unol â chanllawiau’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel. I gymryd rhan, e-bostiwch: gwasanaethtreftadaeth@rctcbc.gov.uk

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:

“Mae’r prosiect glanhau cofebion yn ffordd wych i’r Cyngor addo ei gefnogaeth barhaus i warchod ein treftadaeth a chynnwys cymuned y lluoedd arfog eu hunain yn y prosiect. Diolch yn arbennig i Valleys Veterans am weithio gyda'r Cyngor ar y prosiect pwysig yma.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i wneud gwelliannau i'n cofebion rhyfel gan fod y rhain yn henebion arwyddocaol sy’n caniatáu inni gadw atgofion am y rheiny a wnaeth yr aberth eithaf yn fyw.

"Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r unigolion ag ymunodd â ni ddydd Gwener, 15 Medi, ar gyfer ailagor y gofeb yn dilyn y prosiect glanhau ar y cyd yma. Rwy’n arbennig o falch bod aelodau o’n cymuned sydd wedi gwasanaethu amser yn y lluoedd wedi ymuno â ni, ac mae prosiectau fel yr un yma yn ffordd wych o’u cadw mewn cysylltiad gyda ni a gyda'i gilydd.

“Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi derbyn Gwobr Aur y Weinyddiaeth Amddiffyn, hanes balch o werthfawrogi’r lluoedd arfog ac mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, gan gynnwys eu teuluoedd, yn effro i ba wasanaethau y mae modd i ni eu darparu ar eu cyfer."

Mae Valley Veterans yn grŵp gwirfoddol cymunedol sy'n cael ei arwain gan gyn-filwyr ac mae’n darparu cymorth i gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf. Cafodd y grŵp ei sefydlu dros 16 mlynedd yn ôl a chaiff ei gefnogi gan y Cyngor, sy'n darparu cymorth gydag iechyd meddwl, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), a chymorth cymunedol arall.

Meddai Paul Bromwell, Prif Weithredwr Valley Veterans:

"Un o nodau Valley Veterans yw i ein gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned i wella eu lles corfforol a meddyliol. Mae cadw treftadaeth cyn-filwyr yn bwysig i ein gwirfoddolwyr, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith o lanhau a chynnal a chadw cofeb rhyfel Tonypandy. Diolch yn fawr i staff Cyngor Rhondda Cynon Taf: Rhiannon Seymour; Jamie Ireland; Y Cynghorydd Craig Middle; a Darren Macey; a'n gwirfoddolwyr: Dave Bell; a Nigel Locke am gyfrannu at y prosiect gwerthfawr yma.

“Mae Valley Veterans yn cynnig lle croesawgar a diogel i bawb sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog yn y gorffennol. Mae modd i chi gael gwybod rhagor amdanon ni, y gwaith rydyn ni'n ei wneud, a phryd rydyn ni'n cwrdd, trwy fynd i valleyveterans.org neu chwilio am 'Valley Veterans' ar Facebook."

I gael rhagor o wybodaeth am Valley Veterans, ebostiwch y grŵp  enquiries@valleyveterans.org neu ffoniwch 07733 896 128.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a’u teuluoedd. Maen nhw'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i aelodau ddoe a heddiw'r Lluoedd Arfog. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Yn ôl yn 2012, daeth y Cyngor yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018 ac a osododd esiampl ar gyfer gweddill Cymru. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus i gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.

Wedi ei bostio ar 28/09/2023