Skip to main content

Plac Glas ar gyfer Ceridwen Brown

Bydd plac glas ar gyfer Ceridwen Brown (née Thomas) yn cael ei ddadorchuddio yn Eglwys Sant Elfan, Aberdâr ar 8 Mawrth am 2pm.  Mae croeso i'r cyhoedd ddod. 

Cafodd Ceridwen Thomas ei geni yn Aberaman yn 1896, yn ferch i Morgan a Rachel Thomas, 27 Stryd y Rhaglyw, Aberdâr. 

Yn ymgyrchydd brwd o ddechrau'r 1920au, roedd Ceridwen Brown yn rhan o Urdd Gydweithredol y Menywod, y symudiadau yn erbyn rhyfel ac o blaid heddwch, yn gweithredu yn erbyn caledi a thlodi, a sefydliadau cymunedol llawr gwlad eraill.  

Yn 1929, cafodd ei henwebu gan y Blaid Gomiwnyddol, y ddynes gyntaf erioed i gael ei henwebu yn ymgeisydd seneddol ar gyfer Etholaeth Aberdâr.  Dyma ddigwyddiad pwysig iawn, fel cafodd ei nodi gan y Western Mail: "the lion's share of interest centres on the candidature of Mrs Ceridwen Brown." Yn ystod yr achlysur, daeth tlodi i'r amlwg, ac fe'i gorfodwyd i gamu yn ôl o ganlyniad i resymau personol. Digwyddodd hyn unwaith yn rhagor pan gafodd ei henwebu yn 1931. 

Yn ystod yr 1930au, fe safodd mewn sawl etholiad ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr. Yn 1935, fe arweiniodd yr ymosodiad ar Dŷ Iscoed ym Merthyr Tudful mewn protest yn erbyn y Prawf Modd. Yn ystod y cyfnod yma, cymerodd ran yn y  Gorymdeithiau Newyn gan godi arian i gefnogi'r Llywodraeth Weriniaethol yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. 

Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd Ceridwen Brown at ymgyrchu heddychlon gan godi arian ar gyfer y frwydr yn erbyn cancr - bu farw dau o'i tri phlentyn o gancr. Bu farw Ceridwen Brown yn 1976, ychydig fisoedd cyn ei phen-blwydd yn 80 - oed rhyfeddol i rywun oedd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd yn oedolyn ar y llinell dlodi neu is ei llaw.  Mae ei gwaddol yn parhau i annog menywod, yn benodol, i ymgymryd â bywyd cyhoeddus gan ddarparu'r adnoddau iddyn nhw wneud hynny. Er enghraifft sut i annerch cynulleidfa, sut i baratoi deunydd ymgyrchu a sut i lunio neges. Fel y dywedodd yn 1950 mewn araith gafodd ei nodi gan yr Aberdare Leader "there needs to be more support [given] to women to take a more active interest in public affairs." Er iddi wynebu sawl trychineb, at y diben yma y rhoddai ei bywyd. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Roedd Ceridwen Brown ar flaen y gad gan lunio llwybr i fenywod gael mynediad i'r arena wleidyddol.  Mae hi'n dderbynydd haeddianol iawn o blac glas, nid yn unig am ei chefnogaeth i fenywod ond am ei gwaith codi arian."

 

Mae'r Cynllun Placiau Glas yn un o sawl ffordd y mae treftadaeth gyfoethog ein bwrdeistref sirol yn cael ei chadw'n fyw.  Mae ein carfan treftadaeth yn derbyn enwebiadau ar gyfer placiau glas drwy gydol y flwyddyn. Mae modd cysylltu â'r Gwasanaeth Treftadaeth drwy e-bostio GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk am wybodaeth a sut i enwebu. 

Mae achlysuron treftadaeth am ddim yn cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol fydd yn helpu i lywio'r strategaeth treftadaeth 10 mlynedd o hyd sy'n cael ei lunio ar hyn o bryd. 

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth yma

 


 

Wedi ei bostio ar 16/02/24